Chwilio am ddatblygwr i ddod â chyfleusterau o ansawdd uchel i leoliad poblogaiddSafle cyrtiau tenis Bae Langland sy'n cael eu tanddefnyddio.

Gwahoddir datblygwyr i ddod â chyfleusterau cyhoeddus newydd o ansawdd uchel i safle glan môr gwych sy’n cael ei danddefnyddio ym mhenrhyn Gŵyr.

Mae Cyngor Abertawe’n chwilio am fusnes i brydlesu darn o dir 0.9 erw yn agos at draeth Bae Langland ac i ychwanegu lleoliad hamdden poblogaidd newydd i’r arfordir prydferth.

Mae’r safle’n cynnwys tri chwrt tenis sy’n cael eu tanddefnyddio, bloc toiledau cyhoeddus ac adeilad bach ar wahân.

Bydd angen i unrhyw ddatblygiad ddarparu cyfleusterau hamdden a thoiledau cyhoeddus er mwyn gwella gwasanaethau i’r cyhoedd a chyd-fynd â’r amgylchedd.

Mae defnyddiau posib o’r safle, sydd ychydig y tu allan i Dirwedd Genedlaethol Gŵyr, yn cynnwys gwesty, bwyty, caffi, siop a chyfleusterau cymunedol a hamdden.

Bydd yr arian a godir drwy unrhyw brydles hir yn cael ei ail-fuddsoddi yng ngwasanaethau’r cyngor. Ni chyflwynwyd unrhyw gynlluniau hyd yn hyn a byddai angen i unrhyw ddatblygwr ddilyn proses gynllunio ffurfiol lawn, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor, “Mae amrywiaeth eang o ffyrdd o’i ddefnyddio, ac mae ffafriaeth gref dros gynnwys darpariaeth gymunedol newydd.

“Rhaid i unrhyw gynllun fod o ansawdd uchel a bydd yn rhaid i’r rheini sy’n ei weithredu gynnal a chadw’r toiledau a chawodau cyhoeddus presennol neu greu rhai newydd ar y safle.

“Ni wnaed unrhyw benderfyniadau eto.” 

Mae Bae Langland yn gyrchfan hamdden a gydnabyddir yn genedlaethol gyda phromenâd eang, caffi glan môr, bwyty’r Brasserie, clwb golff, parcio, cartrefi a chabanau glan môr eiconig.

Mae safle sydd ar werth yn cynnwys tri chwrt tenis sydd wedi cael eu tanddefnyddio ers blynyddoedd.

Ni fyddai unrhyw benderfyniad i roi prydles hir i ddatblygwr yn effeithio ar y defnydd parhaus o’r tri chwrt cyfagos. Mae Cyngor Cymuned y Mwmbwls yn rheoli’r rhain – gan gynnwys dau gwrt tenis o ansawdd uchel sydd wedi’u hadnewyddu – dan gytundeb prydles gyda Chyngor Abertawe.

Mae’r safle sydd ar werth yn cynnwys adeilad y credir nad yw bellach yn cael ei ddefnyddio fel canolfan cymorth cyntaf. Nid yw Clwb Bad Achub Bae Langland cyfagos yn rhan o’r safle.

Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Rydym am gael rhywbeth sy’n cyd-fynd â’r amgylchedd lleol – felly dim datblygiadau uchel. Rydym am wella a diogelu’r hyn sydd gennym – trysor arall i ddiddanu a chyflogi pobl.”

Bydd barn y cyhoedd yn rhan o’r broses benderfynu.

Mae’r safle’n cael ei farchnata gan yr ymgynghorwyr tir ac eiddo Savills ar ran Cyngor Abertawe.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *