Fel rhan o baratoadau ar gyfer Gŵyl Tawe 2025, mae’r cerddor ifanc a chyffrous o Abertawe, Manon, yn rhyddhau ei sengl gyntaf heddiw 2il o Fai drwy Fenter Iaith Abertawe.
Yn rhan o gynllun datblygu cerddoriaeth i bobl ifanc rhwng 15-21 oed, Future Blood, mae Manon hefyd yn aelod rheolaidd o glwb cerddoriaeth Tŷ Tawe. Er iddi ddechrau ysgrifennu cerddoriaeth ychydig dros flwyddyn yn ôl yn unig, mae Manon eisoes wedi perfformio’n gyson yn ei hardal leol, gan ddenu cyffro o gwmpas ei henw. Bydd hefyd yn ymuno â Gruff Rhys, Adwaith, EADYTH, Los Blancos, Mari Mathias, Mali Hâf, a Pys Melyn yng Ngŵyl Tawe eleni, yn agor llwyfan Gardd yr Amgueddfa fis Mehefin.
Eglura Manon: “Cafodd y trac ei ysbrydoli gan gerddoriaeth Carole King, a’r geiriau gan gwmni ffrind. Mae’r teitl ‘Amryliw’ yn cyfeirio at liw gwallt y ffrind, ond gall y gân gyfeirio at unrhyw gyfeillgarwch sy’n gwneud i ni deimlo’n hapus.”
Mae ‘Amryliw’ allan nawr drwy Fenter Iaith Abertawe gyda fideo arbennig – wedi’i gyfarwyddo gan Jamie Panton a’i ariannu gan Gronfa Fideos PYST x S4C – ar gael i’w wylio ar AM. |