• Mae bron i £450,000 wedi’i fuddsoddi a  bydd hyd at 19 o gynllunwyr cymwys newydd yn derbyn cymorth ledled Cymru 
  • Cynllun gwledig newydd sy’n targedu prinder o fewn y gweithlu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru 
  • Bydd graddedigion sy’n siarad Cymraeg yn elwa ar ddull “Cymreig” o greu ein cynllunwyr ein hunain sydd wedi’i deilwra i ardaloedd lleol  

Bydd cymunedau ledled Cymru yn elwa ar wasanaethau cynllunio lleol cryfach a mwy gwydn yn sgil cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd £447,400 yn cael ei wario ar hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o gynllunwyr. 

Golyga’r buddsoddiad y bydd y cynllun bwrsariaeth Llwybrau at Gynllunio yn parhau (£126,000), gan gefnogi hyd at saith cynllunydd iau newydd gydag astudiaethau ôl-raddedig wedi’u hariannu’n llawn. Bydd cynllun bwrsariaeth newydd i Gynllunwyr Gwledig Canolbarth a Gorllewin Cymru (£321,400 dros dair blynedd) yn creu hyd at 12 o gynllunwyr cymwys ychwanegol mewn ardaloedd gwledig, lle mae’r heriau recriwtio fwyaf acíwt. 

Bydd y cynllun newydd hwn yn cefnogi graddedigion newydd a staff presennol yng Ngheredigion, Sir Benfro, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Eryri a Phowys i astudio ar gyfer cymwysterau ôl-raddedig sydd wedi’u hachredu gan RTPI tra’n aros yn eu cymunedau. 

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian: 

“Gwasanaethau cynllunio da yw asgwrn cefn cymunedau ffyniannus. Maen nhw’n siapio lle mae cartrefi yn cael eu hadeiladu, lle mae busnesau’n tyfu a sut rydyn ni’n diogelu ein hamgylchedd naturiol, ond mae gormod o ardaloedd gwledig yng Nghymru yn wynebu anawsterau o ran recriwtio a chadw’r cynllunwyr sydd eu hangen arnynt. 

“Dyna pam y cefais ymuno â chyfarfod bord gron yn y Sioe Frenhinol yr wythnos hon gydag arweinwyr cynghorau gwledig, gan gynnwys arweinwyr Ceredigion a Phowys, i glywed am y pwysau maen nhw’n eu hwynebu. Mae’r cynlluniau bwrsariaeth hyn yn ymateb uniongyrchol i’r hyn a glywsom – buddsoddi mewn doniau lleol, cefnogi graddedigion sy’n siarad Cymraeg a thyfu’r gweithlu cynllunio o fewn y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.”

Cyngor Sir Ceredigion fydd yn arwain o ran gweithredu’r cynllun gwledig. Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:

“Mae lansiad heddiw Rhaglen Datblygu Gweithlu Cynllunio Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd awdurdodau gwledig yn dod ynghyd i fynd i’r afael â heriau cyffredin. Mae Ceredigion wedi bod yn falch o arwain y gwaith o ddatblygu’r fenter ranbarthol hon, gan weithio gyda’n partneriaid i greu cyfleoedd newydd i bobl leol adeiladu gyrfaoedd proffesiynol ym maes cynllunio tra’n parhau i fyw a gweithio yng Nghymru wledig.

Drwy fuddsoddi mewn talent leol, cefnogi graddedigion Cymraeg eu hiaith a chryfhau’r sgiliau y bydd eu hangen arnom yn y dyfodol, rydym yn helpu i sicrhau bod gan Ganolbarth a Gorllewin Cymru’r gallu, yr arbenigedd a’r wybodaeth leol sydd eu hangen i lunio cymunedau ffyniannus a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau i ddod. Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cyfle i ddatblygu’r dull hwn o ‘feithrin ein cynllunwyr ein hunain’.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *