Mae’r Dirprwy Weinidog newydd dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, wedi amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer adolygiad, dan arweiniad busnes, o system sgiliau Cymru. Rydym yn croesawu ei fwriad amserol i greu system fwy ymatebol, a seilir ar ddata ac sy’n sicrhau bod addysg a hyfforddiant yn cyfateb i anghenion cyflogwyr.
Mae Cymru’n wynebu cryn her. Dywed cyflogwyr mewn nifer o sectorau ei bod yn dal yn anodd recriwtio pobl â’r sgiliau angenrheidiol er bod gormod o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Yn ôl ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru, roedd 11.6% o’r bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn cael eu cyfrif yn NEET yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024.
O safbwynt NTFW, ni ddylid ystyried y materion hyn fel dau beth ar wahân. Mae prinder sgiliau ac ymddieithriad pobl ifanc yn ddwy ochr i’r un geiniog. Os yw Cymru o ddifrif ynglŷn â thyfu’r economi, cynyddu cynhyrchiant a chreu cyfleoedd i bobl ifanc, rhaid rhoi lle canolog i brentisiaethau.
Yn briodol iawn, mae’r Dirprwy Weinidog wedi tanlinellu pwysigrwydd rhoi busnes a diwydiant wrth galon yr Archwiliad Sgiliau ac Uwchgynhadledd Sgiliau’r Dyfodol sydd ar ddod. Mae cyflogwyr yn y rheng flaen wrth wynebu newidiadau economaidd. Maent yn deall ble mae bylchau sgiliau ar hyn o bryd a ble mae cyfleoedd yn debygol o godi yn y dyfodol.
Drwy roi llais cryfach i fusnesau wrth lunio’r ddarpariaeth o ran sgiliau, mae cyfle i Gymru greu system sy’n cyfateb yn well i’r galw yn y farchnad lafur.
Mae prentisiaethau’n un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o droi’r mewnwelediad hwnnw gan gyflogwyr yn gyfleoedd gwirioneddol. Wrth alluogi unigolion i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a’r profiad y mae ar fusnesau eu hangen, maent yn cynnig llwybr uniongyrchol i gyflogaeth.
Yn wahanol i lawer o lwybrau traddodiadol, mae prentisiaethau’n cyfuno cyflogaeth a dysgu, gan eu gwneud yn arbennig o ddeniadol i bobl ifanc nad ydynt o’r farn mai parhau ar y trywydd academaidd yw’r opsiwn cywir iddyn nhw.
Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ystyried yr her sy’n codi pan fydd pobl ifanc yn ymddieithrio o addysg neu gyflogaeth. Fel y pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog, cafodd pandemig Covid effaith hirdymor ar hyder, gwydnwch a llesiant meddyliol pobl ifanc.
I lawer, mae ailgysylltu ar ôl ymddieithrio’n gofyn am fwy na dim ond cynnig cwrs hyfforddi. Mae angen llwybrau clir, amgylcheddau cefnogol a chyfleoedd sydd â chysylltiad gweladwy â gyrfaoedd ystyrlon.
Gall prentisiaethau gynnig yr union beth hwnnw. Maent yn cynnig cefnogaeth strwythuredig, mentora yn y gweithle a’r cyfle i feithrin hyder trwy gyflogaeth go iawn. Maent yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i bobl ifanc ac yn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau, y mathau o ymddygiad a’r profiad angenrheidiol i lwyddo yn y gweithle.
Maent hefyd yn cynnig mecanwaith ar gyfer sicrhau bod pobl Cymru’n gallu elwa o fuddsoddiad yn y sectorau y disgwylir iddynt yrru twf economaidd yn y dyfodol. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi nodi bod meysydd fel ynni gwyrdd, gweithgynhyrchu uwch, iechyd a gofal cymdeithasol, a’r sector niwclear yn debygol o fod yn ddiwydiannau twf.
Bydd rhaid datblygu llwybrau prentisiaethau i’r sectorau hyn cyn y gall Cymru feithrin y ffrydiau talent angenrheidiol er mwyn ehangu yn y dyfodol.
Mae’n bwysig nodi na ddylid ystyried prentisiaethau fel dewis ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yn unig. Mae ganddynt ran hanfodol hefyd yn y gwaith o uwchsgilio ac ailsgilio’r gweithlu presennol, cefnogi dilyniant o ran gyrfa a helpu cyflogwyr i addasu i dechnolegau sy’n newid ac anghenion byd busnes. Felly, mae prentisiaethau’n cyfrannu nid yn unig at gyflogadwyedd, ond hefyd at gynhyrchiant, arloesedd a chystadleurwydd economaidd.
Mae’r Archwiliad Sgiliau sydd ar y gweill yn gyfle i edrych o’r newydd ar y ffordd mae Cymru’n datblygu’r gweithlu angenrheidiol at y dyfodol. Er mwyn llwyddo, rhaid iddi sicrhau bod cyflogwyr yn dal wrth galon y broses benderfynu a bod rhaglenni prentisiaethau’n cael eu cydnabod fel ffordd allweddol o gyflawni ei huchelgeisiau.
Mae gan Gymru gyfle da i fynd i’r afael â phrinder sgiliau ac i ostwng nifer y bobl ifanc NEET ar yr un pryd. Drwy gryfhau rhaglenni prentisiaethau dan arweiniad cyflogwyr a sicrhau eu bod yn cyfateb i sectorau twf y dyfodol, gallwn greu llwybrau cliriach i gyflogaeth, cefnogi twf busnesau a datgloi potensial cenhedlaeth o bobl ifanc sydd â llawer i’w gyfrannu at economi Cymru.
I Gymru, mae prentisiaethau’n fwy na dim ond rhaglen hyfforddi. Maent yn fuddsoddiad mewn pobl, busnesau a ffyniant y wlad yn y dyfodol.

