Yn ôl ym 1956, cafodd Penrhyn Gŵyr ei gydnabod yn swyddogol am ei dirweddau naturiol trawiadol, ac mae’n hawdd gweld pam.
O draethau arobryn a chlogwyni calchfaen dramatig i dir comin gwyrdd bryniog, morfeydd heli, cildraethau cudd a phentrefi hyfryd, mae Gŵyr wedi bod yn syfrdanu pobl ers cenedlaethau.
Yn fwy diweddar fe’i dynodwyd hefyd yn un o’r 46 o Dirweddau Cenedlaethol ar draws y DU. Mae statws cyfreithiol Gŵyr fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn parhau i fod yn ddigyfnewid er yr enw newydd.
Mae penrhyn Gŵyr yn lle unigryw, lle gallwch syrffio yn y bore, cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a blasu bwyd lleol yn y prynhawn, ac yna gwylio’r haul yn machlud gyda’r hwyr dros un o arfordiroedd y DU y tynnir lluniau ohono fwyaf.
Mae Gŵyr hefyd yn llawn hanes ac mae’n gartref i fan claddu dynol seremonïol hynaf Ewrop (Menyw Goch Pen-y-fai (Pafiland), tua 34,000 o flynyddoedd oed!), yn ogystal â meini hirion, llongddrylliadau, ogofâu, cestyll a chapfaen enwog Maen Ceti.
Meddai Tracey McNullty, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol a Pharciau a Glanhau ‘Mae’r pen-blwydd yn gyfle i ddathlu tirweddau Gŵyr a hefyd y bobl, y cymunedau a’r busnesau sy’n helpu i’w wneud yn lle mor groesawgar.
“Mae penrhyn Gŵyr yn parhau i fod yn arloeswr drwy ddod yn Gymuned Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf de Cymru, gan ddangos sut mae tirweddau gwarchodedig yn addasu i heriau modern.”
Mae Croeso Bae Abertawe’n gwahodd pawb i fod yn rhan o’r dathliadau – p’un a ydych chi’n darganfod Gŵyr am y tro cyntaf, neu’n dychwelyd i’ch hoff le hapus. Archwiliwch mewn modd cyfrifol, cefnogwch fusnesau lleol a helpwch i gadw’r gornel hardd hon o dde-orllewin Cymru’n arbennig am flynyddoedd i ddod’.
Ar gyfer ysbrydoliaeth, lleoedd i aros, pethau i’w gwneud a digwyddiadau, ewch i www.croesobaeabertawe.com
