Mae cyfres o welliannau sydd â’r nod o gynyddu isadeiledd gwyrdd, creu cysylltiadau cerdded a beicio gwell a gwella amddiffyniad rhag llifogydd yn cael eu rhoi ar waith mewn cymuned yn Abertawe.
Mae planhigion, llwyni ac ardaloedd i gerddwyr wedi’u gwella yn rhan o nifer o fesurau sy’n adnabyddus fel gerddi glaw ac maent yn cael eu creu ar hyn o bryd mewn lleoliadau allweddol yn ardal Sandfields/San Helen.
Mae gerddi glaw’n dal dŵr ffo o ffyrdd a phalmentydd. Mae coed, llwyni a blodau’n helpu i leihau risg llifogydd ac yn helpu i atal llygredd rhag cyrraedd dyfrffyrdd a niweidio ecosystemau.
Maent hefyd yn cynnig bwyd a chysgod i beillwyr drwy’r flwyddyn ac yn rhoi ychydig o liw drwy’r tymhorau.
Mae’r gwelliannau hefyd yn rhan o ymdrechion Cyngor Abertawe i gyflwyno isadeiledd gwell ar gyfer cerdded a beicio ar draws y ddinas, yn dilyn cais llwyddiannus am grant drwy raglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Mae cyllid pellach ar gyfer y cynllun wedi’i ddarparu drwy gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae ardaloedd Phillips Parade a Rodney Street yn cael eu gwella ar hyn o bryd.
Mae’r gwelliannau’n dilyn ymgynghoriad blaenorol â phreswylwyr a busnesau yn yr ardal a thrwy gymorth Urban Foundry, yr arbenigwyr adfywio cymunedol, a wnaeth helpu i ddatblygu’r cynlluniau blaengar.
Mae’r gwaith diweddaraf yn dilyn mesurau tebyg sydd wedi’u cwblhau’n uniongyrchol y tu allan i Ysgol Gynradd San Helen.
Roedd palmant gwell yn cael ei osod, ynghyd â chyrbau isel, sy’n gwella mynediad y rhai hynny sy’n teithio i’r ysgol ac oddi yno, boed ar gerdded neu ar feiciau a sgwteri.
Meddai Stuart Davies, Pennaeth Gwasanaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd Cyngor Abertawe, “Mae’r mesurau arloesol hyn yn darparu amrywiaeth o fuddion i gymunedau lleol lle mae cysylltiadau rhwng strydoedd yn cael eu gwella ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
“Mae cyflwyno gerddi glaw hefyd yn darparu ateb gwyrdd a chynaliadwy ar gyfer mannau mewn cymunedau lle gall merddwr ddigwydd yn ystod glaw trwm.
Gosodwyd gardd law arall ar ben Burrows Road, gerllaw Oystermouth Road.
Mae’r prosiectau gerddi glaw i gyd yn rhan o weledigaeth y cyngor i helpu i ddatblygu mannau gwyrddach, aer glanach ac allyriadau carbon is mewn cymunedau ledled y ddinas.
