Mae Cyngor Abertawe’n ceisio barn preswylwyr am osod unedau storio beiciau diogel ar draws y ddinas.
Gan ddefnyddio arian grant o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, mae’r cyngor yn bwriadu gosod nifer o storfeydd beiciau mewn ardaloedd preswyl, lle mae’r angen mwyaf amdanynt.
Mae’r storfeydd beiciau Cyclehoop blaengar a diogel eisoes yn cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o’r DU ac maent yn darparu dewis arall ar gyfer beicwyr sy’n cael trafferth dod o hyd i le storio yn eu cartrefi.
Mae pob storfa wedi’i wneud o ddur solet a gall storio hyd at chwe beic. Bydd preswylwyr yn gallu cofrestru a rhentu lle ar gyfer eu beic.
Mae ymgynghoriad bellach wedi dechrau a gall preswylwyr yn y ddinas gymryd rhan rhwng nawr a 25 Ionawr 2026.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, “Mae storfeydd Cyclehoop eisoes yn cael eu cyflwyno ar draws y DU, ac rydym yn gyffrous i’w cyflwyno yn Abertawe i gefnogi cymunedau lleol.
“Rydym yn bwriadu eu gosod mewn ardaloedd preswyl o boblogaeth niferus lle nad oes llawer o le ar gael i storio beiciau.
“I sicrhau ein bod yn eu gosod yn y mannau lle mae’r angen mwyaf amdanynt, mae angen i’r cyhoedd gysylltu â ni a rhoi gwybod i ni ym mhle yr hoffent i’r storfeydd fod.
“Gall fod preswylwyr yn y ddinas hefyd sydd wedi osgoi prynu beic yn y gorffennol oherwydd diffyg lle storio yn eu cartrefi. Gobeithio y bydd y fenter newydd hon yn rhoi rheswm i breswylwyr gael beic, gan wybod y bydd ganddynt rywle y gallant ei storio.”
Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar storfeydd beiciau yma: Storfeydd beiciau preswyl – dweud eich dweud – Abertawe
