Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i fod yn Gadeirydd Bwrdd Cymdogaeth newydd Llanelli, ar ôl i Lanelli gael ei gynnwys yn Rhaglen Balchder mewn Lle Llywodraeth y DU.
Gan ganolbwyntio ar ran ddaearyddol benodol o Lanelli, mae’r ardal yn un o blith pedair yng Nghymru a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen adfywio a grymuso cymunedol hirdymorhon, a fydd yn darparu hyd at £20 miliwn o fuddsoddiad dros 10 mlynedd. Bydd y cyllid yn cefnogi prosiectau trawsnewidiol, a arweinir gan y gymuned sy’n meithrin balchder, cyfle a gwytnwch hirdymoryn yr ardal.
Bydd y Cadeirydd yn chwarae rhan ganolog wrth lunio effaith y Rhaglen Balchder mewn Lle sy’n cynnwys: penodi ac arwain y Bwrdd Cymdogaeth; darparu arweinyddiaeth glir, gynhwysol a thryloyw, gweithio’n adeiladol gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu harwain gan y gymuned, yn deg ac yn cyd-fynd ag anghenion lleol.
Bydd y Bwrdd Cymdogaeth yn dod â thrigolion, busnesau lleol, sefydliadau ar lawr gwlad a chynrychiolwyr etholedig ynghyd i wneud penderfyniadau ar sut mae cyllid yn cael ei fuddsoddi, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac yn cyflawni effaith barhaol.
Bydd y Bwrdd yn arwain buddsoddiad mewn mentrau gan gynnwys:
· Adnewyddu’r stryd fawr a gwelliannau i’r strydlun
· Sicrhau bod mannau cyhoeddus yn fwy diogel, yn wyrddach ac yn fwy croesawgar
· Cyfleusterau chwarae, diwylliannol a chymunedol
· Tai a pherchnogaeth asedau dan arweiniad y gymuned
· Mentrau cymdeithasol a busnesau cydweithredol
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Rwy’n falch iawn y bydd ardaloedd Llanelli yn elwa ar y rhaglen Balchder mewn Lle, gyda swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi’r gymuned a fydd yn arwain ar y buddsoddiadau hyn i ddarparu ystod eang o fanteision i’r ardal leol.
Oherwydd natur hyblyg a hirdymor y rhaglen, bydd hyn yn galluogi cymunedau i ymateb i anghenion newidiol a sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad yn darparu’r budd mwyaf posibl i’r gymuned.
Disgwylir i brosiectau ddechrau gael eu cyflawni o 2027, yn dilyn ymgynghori a chynllunio.”
Ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin i gael rhagor o wybodaeth am raglen Balchder mewn Lle Llanelli a sut i wneud cais am rôl y Cadeirydd.
