Cau hawl tramwy cyhoeddus dros dro

Mae pont droed Dafen (Pont Ddu), Llanelli ar gau ar hyn o bryd tra bod gwaith hanfodol yn cael ei wneud i dynnu’r bont bresennol a gosod pont newydd sy’n cynnwys mynediad â ramp. 

Bydd y llwybr, sy’n cysylltu Heol y Drindod, Llanelli â hen safle chwarel Pen y Fan, ar gau tan fis Hydref oherwydd maint y gwaith sydd ei angen. Mae llwybr arall ar gael trwy Stryd Olive a Heol Trostre.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *