Rafik Harrington o Gaerdydd yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro

Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 (dydd Sadwrn, 31 Mai), cyhoeddwyd mai Rafik Harrington, sy’n 19 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, yw Prif Gyfansoddwr yr ŵyl.

Rhoddir y Fedal eleni gan gorau lleol yr ardal (Parti Llwchwr, Côr Meibion Dyfnant, Côr Nedd, Côr y Gweilch, Côr Philharmonic Abertawe, Côr Meibion Clwb Rygbi Treforys).

Daeth Rafik yn ail yn y gystadleuaeth hon y llynedd. Astudiodd Rafik gyfansoddi yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru gyda Michael McCartney a Joel Baldwin am 5 mlynedd, ac yn yr amser hynny mi chwaraeodd ffidil gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yng Nghaerdydd a phiano yn Eisteddfod yr Urdd, fel unawdydd ac mewn ensemble. Mae bellach yn fyfyriwr cyfansoddi yn ei flwyddyn gyntaf yn yr RNCM ym Manceinion. Yn ei amser rhydd, mae’n mwynhau astudio ieithoedd, gan gynnwys Gwyddeleg, Almaeneg a Ffrangeg, darllen, athroniaeth a cherdded mynyddoedd.

Mae Rafik yn ennill teitl y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn ar gyfer wythawd diddorol o offerynnau. Daeth 11 ymgais i law, gyda’r beirniaid Eilir Owen Griffiths a Carwyn Jones yn nodi fod “pob un ohonynt yn dangos addewid a rhinweddau da ym mhob darn.

“Meddai Rafik, oedd yn cystadlu gan y ffugenw Mustav Gahler: “Ysbrydoliaeth y darn yma oedd syllu ar olygfa wedi’i lygru gan olau ar noson ym mis Rhagfyr. Mae ffrwydradau egni’r darn yn cynrychioli yr hyn mae’r llygaid yn ei weld dan olau isel, sef arwyddocâd “scotopia.” Daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y darn yn rhannol o Harrison Birtwistle a Mahler, a gadarnheir gan fy ffugenw.

“Meddai’r beirniaid: “Mae’r enillydd yn deall sut i strwythuro darn yn effeithiol, dangos sensitifrwydd wrth ddatblygu syniadau ac wedi cymryd gofal dros bob agwedd o’r ysgrifennu. Roedd y daith gerddorol yn glir a’r sylw neilltuol i’r manylder yn dangos cyfansoddwr aeddfed dros ben.

“Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Gerard Coutain o Rydaman (enillydd llynedd), a Heledd Wynn Newton o Gaerdydd oedd yn drydydd.Gellir gwylio rhaglenni uchafbwyntiau wythnos ar S4C Clic a gellir gweld holl ganlyniadau’r Ŵyl drwy ymweld â’r wefan s4c.cymru/urdd

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *