Elin Undeg Williams yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025

Heddiw (Dydd Mawrth, 27 Mai) cyhoeddwyd mai Elin Undeg Williams o Betws Gwerfil Goch, Sir Ddinbych yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro.

Mae hi’n hanner can mlynedd union i eleni ers y cynigiwyd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf – yn eisteddfod Llanelli 1975.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod yn hirach na chwarter awr. Yn ôl y beirniad, Heiddwen Tomos a Sêra Moore Williams, daeth 14 ymgais i law mewn cystadleuaeth ‘safonol iawn’, gyda’r ddwy wedi’u ‘plesio yn fawr, gyda addewid a hyder yng ngwaith pob un.’

Mae Elin yn 18 mlwydd oed ac yn astudio Cymraeg, Hanes ac Addysg Grefyddol yn Ysgol Brynhyfryd. Ei bwriad ar gyfer mis Medi yw mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio’r Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol. Mae hi’n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled, ac yn edrych ymlaen i gystadlu fel aelod o Aelwyd Llangwm yn yr Eisteddfod ddiwedd yr wythnos. Hoffai Elin ddiolch i athrawon yn Adran Gymraeg Ysgol Brynhyfryd am fod mor gefnogol, ac i’w theulu am bopeth.

Meddai’r beirniaid: “Dyma ddrama amserol gyda deialog gelfydd am sefyllfa anodd. O’r darlleniad cyntaf roedd y ddwy ohonom wedi dwli arni. Mae yna fomentau arbennig sydd wir yn cyffwrdd calon. Mae’r sgrifennu yn arbennig ac yn swyno’r darllenydd. Mae yma ddyfnder a dealltwriaeth wirioneddol o gymeriadau y gellid yn hawdd uniaethu â nhw. Mae’r neges yn gafael a’r tynerwch rhwng y ddau gymeriad yn cynnal y ddrama.” 

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Ffred Hayes o Gaerdydd, a Mali Grigg o Fangor oedd yn drydydd. Mae’r ddau yn aelodau o gast Ceridwen, Cwmni Theatr yr Urdd.

Bydd Elin yn treulio amser yng nghwmni’r Theatr Cymru ac yn derbyn hyfforddiant pellach gyda’r BBC.

Derbyniodd Elin fedal arbennig wedi ei chreu gan y gemydd Rhiannon o Dregaron. Cyflwynir y Fedal gan Y Gymdeithas Drama Gymraeg.

Bydd gwaith Elin yn cael ei gyhoeddi ar ffurf pamffled gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn syth ar ôl y seremoni. Owain Sparnon sydd wedi creu’r gwaith celf ar gyfer pamffledi’r prif enillwyr; un o fro’r eisteddfod ac un feirniaid prif gwobrau celf yr ŵyl eleni. Gellir prynu copi ar y maes neu mewn siopau lyfrau lleol.

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y gystadleuaeth yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd diolch i nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *