Llyfrgell Glowyr De Cymru’n dathlu 50 mlynedd o dreftadaeth ddiwydiannol y rhanbarth

Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru’n dathlu hanner canrif o gasglu a chadw atgofion pwysig gorffennol diwydiannol balch y rhanbarth.

Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru, a leolir ym Mhrifysgol Abertawe, yn dathlu 50 mlynedd nos Wener, 20 Hydref drwy gynnal Darlith Rhys Davies yn Llyfrgell Glowyr De Cymru, a gynhelir eleni yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae am 6.30pm.

Cyflwynir gan John Willgoose – sy’n fwy adnabyddus fel J.Willgoose Esq, dyn blaen y band Public Service Broadcasting – enw’r ddarlith am ddim yw Fifty Years at the South Wales Miners’ Library: telling the story of the coalfields through music and memories. Fe’i cynhelir ar y cyd â Sefydliad Diwydiannol y Brifysgol ac fe’i cefnogir yn hael gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies.

THIS IMAGE IS LICENSED TO SWANSEA UNIVERSITY FOR PR AND COMMUNICATION USE AND DISTRIBUTION TO THE MEDIA WHO MAY USE THE PICTURE FREE OF CHARGE IN CONJUNCTION WITH THE RELEVANT STORY ONLY.
Tyrone O’Sullivan and Aberavon MP Hywel Francis open Miners Library.
© Roger Donovan, Media Photos.

Agorwyd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym 1973 i fod yn gartref i ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod Prosiect Hanes y Pyllau Glo dros dair blynedd, a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol ac fe’i cefnogir gan Ardal De Cymru Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Glo a Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiannau Glo.

Mae’r prosiect hwn yn bwriadu casglu cofnodion unigolion a’r sefydliadau a grëwyd ganddynt, megis llyfrgelloedd, corau a chyfrinfeydd Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Glo. Cedwir y llyfrau, y taflenni, y posteri, y baneri, y casgliadau llafar a fideo yn Llyfrgell Glowyr De Cymru tra bod y cofnodion ysgrifenedig a’r lluniau yn cael eu cadw yn Archifau Richard Burton hefyd ym Mhrifysgol Abertawe. Gyda chrebachiad y diwydiant glo, roedd y cymunedau glofaol hyn yn newid yn gyflym, ac roedd eu cofnodion mewn perygl o gael eu colli.

Ar wahân i fod yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil i agweddau cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol ac addysgol pyllau glo De Cymru, datblygwyd y llyfrgell i fod yn ganolbwynt i addysg i oedolion ac addysg gymunedol ac mae’n etifeddiaeth sefydliadau’r glowyr mewn cymunedau ar draws de Cymru.

Yn ei chartref yn Hendrefoelan, mae Llyfrgell Glowyr De Cymrubellach yn gartref i gasgliad ymchwil unigryw ac yn rhyngwladol bwysig sy’n ymwneud â hanes diwydiannol, addysgol, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol de Cymru.

Abercraf Banner on march

Mae ar agor i’r cyhoedd ac mae ganddi rôl flaenllaw mewn addysg oedolion, dysgu cymunedol a mentrau ymgysylltu ar draws de-orllewin Cymru. Mae hefyd yn cefnogi gwaith academyddion, myfyrwyr ac ymchwilwyr gwadd. Mae’r rhain wedi cynnwys J.Willgoose Esq a ddefnyddiodd yr adnodd i ymchwilio i albwm llwyddiannus ei fand Every Valley yn 2017 gan arwain at gynnwys sawl clip o gasgliad hanes llafar y Llyfrgell.

Cadwch eich tocynnau AM DDIM ar gyfer y ddarlith nawr

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *