
Bellach, gall grwpiau cymunedol a sefydliadau sy’n bodoli â’r nod o gefnogi pobl sy’n cael trafferth gyda thlodi bwyd, ac atal tlodi bwyd gyflwyno ceisiadau ar lein.
Mae’r cyllid hwn wedi cael ei ddyfarnu i bob cyngor yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi nifer cynyddol o bobl sy’n wynebu tlodi bwyd. Ei nod yw cryfhau mentrau bwyd cymunedol, ac mae’n canolbwyntio ar weithgareddau a allai helpu i fynd i’r afael ag achosion craidd tlodi bwyd.
Mae’r Grant Tlodi bwyd wedi cael ei agor i sefydliadau a all wneud cais am gyllid hyd at £3,000.
Gallai gwariant sy’n gymwys gynnwys pethau fel prynu bwyd ychwanegol o ganlyniad i gynnydd mewn galw, costau hyfforddi gwirfoddolwyr, costau dechrau ar gyfer datblygu clybiau cinio, caffis cymunedol a gwasanaethau cyngor ym maes cefnogaeth i dlodi bwyd.
Meddai’r Cynghorydd Simon Knoyle, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Hoffwn annog unrhyw sefydliad sydd eisiau sefydlu gwasanaeth cefnogi ar gyfer pobl sy’n wynebu tlodi bwyd, neu sydd eisoes yn gwneud hynny ond sydd angen mwy o arian, i ddysgu mwy neu wneud cais ar lein.
“Mae’r argyfwng costau byw yn agor pobl i’r perygl o fethu â gallu prynu swm digonol o fwyd ar gyfer eu teuluoedd, a thrwy weithio law yn llaw â grwpiau cefnogi lleol a phartneriaid o fewn ein cymunedau, ein gobaith yw gallu helpu i leddfu’r baich ar bobl sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd.”
Does dim dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, ond dyfernir arian o’r gronfa ar sail y cyntaf i’r felin, Rhaid gwario’r holl arian a glustnodwyd erbyn 31 Mawrth 2024.
I gael mwy o fanylion am feini prawf cael cyllid, ac i lenwi ffurflen gais ar lein, ewch i https://beta.npt.gov.uk/food-poverty-fund/.
Os hoffech chi drafod gwneud cais, anfonwch e-bost at ein Swyddog Cefnogi Busnes communityfoodconnections@npt.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
