Mae undeb Prospect wedi penderfynu gohirio’r streic a drefnwyd gan y Gwasanaeth Sifil yn dilyn cynnig gan Lywodraeth Cymru i gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon.
Meddai Daniel Maney, Swyddog Negodi undeb Prospect:
“Rydym wedi cytuno i ohirio’r streic yn y Gwasanaeth Sifil gan fod Llywodraeth Cymru wedi mynegi parodrwydd i gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon.”
“Trwy gydol yr anghydfod hwn, rydym wedi bod yn glir na ddylai ein haelodau gael eu trin yn waeth na gweithwyr eraill yn y sector gyhoeddus, a’u bod nhw’n haeddu cytundeb cyflog sy’n cydnabod yr argyfwng costau byw a ddechreuodd y llynedd. “
“Rydym yn ymgymryd â’r trafodaethau hyn yn ddidwyll, felly dyna pam rydym wedi gohirio’r streic a drefnwyd ar gyfer y 7fed Mehefin, ond byddwn yn parhau efo’r gweithredu’n fyr o streic gan adolygu’r safbwynt hwnnw yn dilyn y trafodaethau a addewir. “
