Gwirfoddolwyr Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd yn helpu i adfer Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien i’w hen ogoniant cyn i’r safle agor yn yr haf

Bydd Dŵr Cymru’n agor ei atyniad ymwelwyr diweddaraf – Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien – yr haf yma, ac yn ystod Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr, mae’n dathlu cyfraniad aruthrol gwirfoddolwyr wrth baratoi’r safle i agor i’r cyhoedd.

Adeiladwyd Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien ar ddiwedd y 19eg Ganrif yn Oes Fictoria. Mae’r tirnod pwysig yma’n cwmpasu 110 erw ac mae’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd yr adar sy’n treulio’r gaeaf yno a’r ffwng cap cwyr. Er gwaetha’i gyfoeth o hanes ac ecoleg, daeth y safle poblogaidd yma dan fygythiad yn 2001, a ffurfiodd aelodau o’r gymuned y Grŵp Gweithredu dros y Gronfa (RAG) gan ymgyrchu’n llwyddiannus i achub y cronfeydd rhag datblygiad.

Volunteers Drystone walling 23rd May 2023-

Pan gymerodd Dŵr Cymru awenau cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yn 2016 – gan ddod yn warcheidwaid ecoleg a threftadaeth y lle – cychwynnodd y siwrnai i adfer y safle i’w hen ogoniant a chreu hyb ar gyfer hamdden, iechyd a lles lle gall pobl ailgysylltu â’r dŵr a’r amgylchedd.

Lisvane and Llanishen – volunteers raking-

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio mewn cydweithrediad ag eraill i gyflawni gweithgareddau rheoli cadwraeth er mwyn amddiffyn a gwella ecoleg unigryw’r safle, hwyluso mynediad i’r cyhoedd a chreu parthau cadwraeth er mwyn amddiffyn bywyd gwyllt ac ecoleg.

Lisvane and Llanishen – volunteers preparing to dry wal

Bu’r cwmni’n awyddus o’r cychwyn cyntaf i gynnwys y gymuned leol  am ei fod yn deall gwir werth ecolegol y safle, felly aeth ati i sefydlu grŵp Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd (CCDC) ar y cyd aelodau o’r grŵp ymgyrchu gwreiddiol. Mae llawer o aelodau CCDC wedi bod yn gwneud gwaith allweddol wrth fynd gyda’r ecolegwyr i gyflawni arolygon er mwyn dysgu rhagor am ecoleg unigryw’r safle a rhannu eu gwybodaeth amgylcheddol.

Lisvane and Llanishen – volunteers preparing stones

Yn ystod y gwaith i adeiladu’r ganolfan ymwelwyr a gosod y llwybrau cerdded o amgylch y cronfeydd dŵr, mae gwirfoddolwyr o CCDC wedi bod yn cynorthwyo’r gofalwyr i reoli’r coetiroedd, gan baratoi’r safle i groesawu ymwelwyr.

Lisvane and Llanishen – volunteers making paths –

Mae’r gweithgareddau y mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn eu cyflawni’n cynnwys: creu llwybrau trwy’r goedwig ar gyfer yr ardal addysg yn y goedwig, torri coesynnau a chlirio canghennau at ddibenion coedlannu, cyflawni ymarferion cyfri misol yr Arolwg o Adar Gwlyptir (WeBS) er mwyn nodi niferoedd adar y dŵr nad ydynt yn bridio, clirio eiddew o’r goedwig er mwyn helpu rhywogaethau eraill i ffynnu, graddio cerrig yn barod i godi waliau cerrig sychion, gorffen y waliau cerrig sychion ar y cyd â’r Gymdeithas Waliau Cerrig Sychion, ac adeiladu tŷ crwn pren a ddaw yn hyb ar gyfer addysg.

Lisvane and Llanishen – volunteers in woods-

Dywedodd Peter Fullerton, Dirprwy Gadeirydd CCDC: “Adeg fy ymddeoliad ychydig flynyddoedd yn ôl, roeddwn i’n gyffrous ynghylch y cyfleoedd a fyddai’n dod yn sgil ailagor y cronfeydd dŵr oedd ar stepen y drws i mi. Fe wirfoddolais i i fod ar bwyllgor CCDC, ac roedd hi’n dipyn o syndod cael fy ethol yn Ddirprwy Gadeirydd. Dŵr Cymru a’r Grŵp Gweithredu Dros y Cronfeydd a ddechreuodd pethau i ni, ac mae’r awdurdod dŵr yn cydweithio’n agos â’r pwyllgor i gynnig amrywiaeth o weithgareddau rheoli coetiroedd a gweithgareddau eraill.

Lisvane and Llanishen – Volunteer Dan WeBS survey

“Mae gennym dros 200 o aelodau erbyn hyn, a grŵp da o wirfoddolwyr rheolaidd hefyd. Mae hi wedi bod yn hyfryd cael gweithio gyda thîm cyfeillgar ar y pwyllgor, a thorchi llewys gyda’r gwirfoddolwyr i gyflawni rhai o’r cyfleoedd rheoli coetiroedd ac adeiladu waliau cerrig sychion. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y cronfeydd dŵr a’r ganolfan ymwelwyr newydd yn agor i’r cyhoedd, gan gyflwyno amrywiaeth ehangach o bethau i fi a’r holl wirfoddolwyr eraill chwarae rhan ynddynt.”

Lisvane and Llanisheb – ranger with volunteers

Dywedodd Michella Impanni, Rheolwr Gwirfoddoli Dŵr Cymru: “Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben am gymorth ein tîm o wirfoddolwyr ymroddgar sy’n dod i’n helpu ni yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien boed law neu hindda. Pan fydd y safle’n agor yr haf yma, bydd modd i ymwelwyr o bob cenhedlaeth o Gaerdydd a’r tu hwnt fwynhau ffrwyth eu hymdrechion. Rydyn ni’n falch o ddathlu 39 mlynedd o Wythnos y Gwirfoddolwyr, sy’n cydnabod ac yn dathlu ymdrechion gwirfoddolwyr ar draws y DU, a thynnu sylw at eu cyfraniad at ein cymunedau lleol.”

Bydd Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn agor i’r cyhoedd yn haf 2023 (yr union ddyddiad i’w bennu).  Mae canolfan ymwelwyr newydd sbon yn cael ei adeiladu ar y safle, a bydd yn cynnwys caffi â golygfeydd panoramig ar draws y ddwy gronfa, ac amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon dŵr.

Mae Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd bob amser yn chwilio am aelodau newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma – https://www.friendsofcardiffreservoirs.org/membership/

Ydych chi’n grŵp neu’n sefydliad a fyddai â diddordeb mewn gwirfoddoli ar safleoedd twristiaeth ac atyniadau Dŵr Cymru? Mae yna gyfleoedd grŵp, yn gweithio ar brosiectau yng nghanol tirweddau hardd. Am fanylion pellach cysylltwch â gwirfoddoli@dwrcymru.com

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *