Mae’r aelod mwyaf newydd o Dîm Parcmyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ateb galwad y môr o’r diwedd, ar ôl symud i’r arfordir wedi blynyddoedd o ymweliadau gwirfoddoli.

Mae Vicky Sewell, sy’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ond sydd hefyd wedi byw ym Mryste, Llundain, Seland Newydd a Norfolk, yn gyfarwydd iawn â Sir Benfro, a hithau wedi gwirfoddoli ar Ynys Sgomer ers dros ddegawd.

Dywedodd Vicky, sydd newydd ddechrau yn ei rôl newydd yn ddiweddar oherwydd yr oedi a achoswyd gan bandemig y Coronafeirws: “Rydw i’n awyddus i gwrdd â’r cymunedau yn fy ardal a datblygu’r rôl sefydledig hon, ac rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda gwirfoddolwyr ac ysgolion.

“Rydw i hefyd yn falch o fod yn gweithio mewn tîm mor ymroddedig, ar ôl gweld eu gwaith yn uniongyrchol yn ystod wythnosau cyntaf fy swydd newydd.”

Mae Ardal De-orllewin y Parc Cenedlaethol yn ymestyn o Nolton Haven o amgylch Penrhyn Marloes a Dale, hyd at Aberdaugleddau, yn ogystal â glannau gorllewinol Aber y Daugleddau i fyny mor bell â Phont Canaston.

I gysylltu â Vicky, anfonwch e-bost i vickys@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 07866 771123.

I gael rhagor o wybodaeth am Barcmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/i-ysgolion-ac-addysgwyr/eich-parcmon/ neu hoffwch dudalen Facebook Parcmyn Arfordir Penfro: https://www.facebook.com/pembscoastrangers/.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *