Cyfle i enwebu pobl a phrosiectau sy’n trawsnewid bywydau drwy ddysguEnillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2025

Gwahoddir enwebiadau ar gyfer pobl a phrosiectau ledled Cymru sy’n trawsnewid bywydau drwy ddysgu ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion eleni.

Wedi’u cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y gwobrau blynyddol yw dathliad mwyaf y genedl o addysg oedolion.

Mae’r Gwobrau Ysbrydoli! yn anrhydeddu dysgwyr a phrosiectau cymunedol eithriadol sy’n dangos sut mae addysg yn cryfhau economi Cymru, yn cefnogi iechyd a llesiant gwell ac yn cyfoethogi bywyd dinesig a diwylliannol.

O ennill cymwysterau i ddarganfod hyder newydd neu ddim ond i ganfod llawenydd mewn dysgu, bydd yr enillwyr yn dangos fod yr effaith yn cyrraedd ymhell tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Mae 10 categori gwobr i gydnabod llwyddiant ar draws Cymru:  Sgiliau Gwaith,  Oedolyn Ifanc, Newid Bywyd, Sgiliau Hanfodol Bywyd, Dysgu ar gyfer Iechyd Gwell,  Heneiddio’n Dda, Siaradwr Newydd, Rhannu Dyfodol, Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol a Llais Dysgwyr.

Mae enwebiadau, sy’n cau ar 17 Ebrill 2026, ar agor i unrhyw un 16 oed neu drosodd sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Gall y dysgu ddigwydd mewn gweithle, coleg, prifysgol, ar-lein neu mewn grŵp cymunedol – p’un a oes gan y dysgu hwnnw achrediad ffurfiol ai peidio. Gall enwebwyr fod yn ddarparwyr addysg oedolion, elusennau, cyflogwyr, cyrff sector cyhoeddus, undebau llafur a mudiadau cymunedol.

Mae’n gyfle gwych i ymuno ag ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo dysgu gydol oes ac ysbrydoli mwy o oedolion i gymryd rhan. Mae rhannu’r straeon hyn yn dangos llwybrau i addysg a symud ymlaen i gyfleoedd newydd, gan annog eraill i gymryd eu camau cyntaf eu hunain.

Dywedodd Hamdi Abdalrhman, cyn enillydd Gwobr Ysbrydoli! 2025: “Fe wnaeth ennill y wobr gryfhau fy nghred mewn dysgu gydol oes. Mae’n fy nghymell i ddal ati i dyfu a mynd ati o’r newydd i gyflawni fy mreuddwydion. Rwyf yn wirioneddol ddiolchgar am yr anrhydedd yma a’r gefnogaeth a wnaeth hynny yn bosibl.”

Dywedodd Kay Smith, pennaeth ymgyrchoedd, datblygu a pholisi y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn dangos sut mae addysg yn grymuso pobl ac yn cryfhau cymunedau ledled Cymru. Bydd enwebiadau yn dangos sut mae dysgwyr a phrosiectau wedi herio disgwyliadau a chreu dyfodol newydd – straeon sy’n ysbrydoli eraill i ddilyn.”

Ychwanegodd Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: “Mae Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn gyfle i ddathlu llwyddiannau gwych oedolion sy’n ddysgwyr ac rwyf wedi gweld drosof fy hun sut y gall dychwelyd i ddysgu newid bywydau.

“Mae enillwyr blaenorol wedi bod yn ysbrydoliaeth wirioneddol, ac rwy’n annog pawb sy’n adnabod oedolyn sy’n dysgu neu un o’r prosiectau addysg oedolion gwych yng Nghymru i’w henwebu am wobr.”

I gael y meini prawf llawn ac i gyflwyno enwebiad, ewch i:

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *