Roedd athletwyr, gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a chlybiau’n cael yr holl sylw nos Iau yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Freedom Leisure.
Roedd Neuadd Brangwyn yn brysur gyda 500 o bobl a ddaeth at ei gilydd i anrhydeddu cyflawniadau chwaraeon nodedig 2025 ar draws Abertawe ac fe’u cyflwynwyd gan yr athletwraig dygnwch eithafol a’r cyflwynydd teledu, Lowri Morgan.
Cyflwynwyd mwy na 100 o enwebiadau ar draws 15 o gategorïau gwobrau, gyda’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cynrychioli cymysgedd eclectig o glybiau cymunedol, rhaglenni llawr gwlad a disgyblaethau chwaraeon.
Meddai Tracey McNulty, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol, Parciau a Glanhau Cyngor Abertawe, “Mae’r gwobrau hyn unwaith eto’n tynnu sylw at ddyfnder anhygoel y doniau chwaraeon sydd gennym yn Abertawe. Roedd yn fraint wirioneddol rannu cyffro’r noson a gweld athletwyr, timau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn cael eu cydnabod am y cyfraniad enfawr y maent yn ei wneud i chwaraeon yn Abertawe. Mae ein tîm Chwaraeon ac Iechyd yn ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i enwebu eu pencampwyr chwaraeon ar gyfer 2025.
“Mae enillwyr eleni’n adlewyrchu sbectrwm llawn ein cymuned chwaraeon, o’r gwirfoddolwyr a’r hyfforddwyr sy’n rhoi oriau di-rif y tu ôl i’r llenni i’r unigolion a’r timau ymroddedig sy’n parhau i ragori yn eu disgyblaethau.
“Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hanfodol i iechyd a lles pobl, ac rydym yn ddiolchgar am yr ymrwymiad a ddangoswyd gan ein hyrwyddwyr cymunedol. Rydym yn parhau’n ymroddedig i gryfhau isadeiledd chwaraeon y ddinas, gan gynnwys buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn chwaraeon olwynog, i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael mynediad at gyfleusterau o ansawdd uchel sy’n eu helpu i aros yn heini.”
Meddai Craig Jones, Rheolwr Cyffredinol (LC Abertawe) yn Freedom Leisure, “Mae Gwobrau Chwaraeon Abertawe’n parhau i arddangos y gorau o chwaraeon yn Abertawe ac fel prif noddwr, rydym yn hynod falch o gefnogi’r Gwobrau Chwaraeon ac i ddathlu’r ymroddiad, y ddawn a’r ymrwymiad a ddangosir gan athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ar draws ein cymunedau.
“Mae gan chwaraeon allu unigryw i ddod â phobl at ei gilydd, ysbrydoli unigolion o bob oed a chreu newid cadarnhaol parhaol. Mae digwyddiadau fel y rhain yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae gweithgarwch corfforol yn ei chwarae wrth wella iechyd, lles ac ysbryd cymunedol, ac mae’n fraint i Freedom Leisure gydnabod a chefnogi’r rhai sy’n gwneud y fath wahaniaeth.”
Dyma enillwyr Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2025:
Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn (Noddir gan ArvatoConnect): Keisha Wilde
Gwirfoddolwr y Flwyddyn (Noddir gan EYST Wales): Sindhu Bhairavi Mahadeven
Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn (Noddir gan Specsavers): Andrew Williams
Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn(gan The National Institute for Sport & Health): Gareth Jones
Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig(Noddir gan Freedom Leisure): David Huxtable
Chwaraewr Iau’r Flwyddyna (Noddir gan Gynnig Gofal Plant Cymru Croeso): Jacob Robert Morgan Davies
Chwaraewraig Iau’r Flwyddyn(Noddir gan Specsavers): Kaitlin Gourlay
Tîm Ysgol y Flwyddyn(Noddir gan Coleg Gwyr Abertawe): Tîm Rygbi Blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Gŵyr
Gwobr Cydnabyddiaeth Llysgenhadon Ifanc Abertawe(Noddir gan Youth Sport Trust) – Llysgenhadon Ifanc Ysgol Gynradd Pontlliw
Clwb neu Dîm Iau’r Flwyddyn(Noddir gan Route Media): Merched Mumbles Rangers
Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn(gan Cynllun Hamdden Actif 60+): Clwb Rygbi Merched Hawks Gorllewin Abertawe
Gwobr Annog Abertawe Actif(gan Joio Abertawe): Sindhu Bhairavi Mahadeven
Cyfraniad Oes i Chwaraeon(Noddir gan Andrew D’Auria Solutions Limited): Ken Wright
Chwaraewr Iau’r Flwyddyn ag Anabledd(Noddir gan Stowe Family
Law): Eleanor Organ
Chwaraewr y Flwyddyn ag Anabledd(gan Cynllun Atgyfeirio Cleifion I Wneud Ymarfer Corff Cymru): Chloe Morgan
Chwaraewr y Flwyddyn(Noddir gan Andrew D’Auria Solutions Limited): Lauren Bryant

