Mae cwmni budd cymunedol yn seiliedig ar fferm waith ger Wrecsam yn cyflwyno rhaglenni dysgu sy’n helpu i ddatblygu sgiliau bywyd a chyflogadwyedd, gwella llesiant, meithrin hyder ac ailgysylltu gyda’u cymunedau.
Wedi’i sefydlu gan Cheryl Reeves a’i gŵr Andrew yn 2020 – yn union cyn pandemig Covid-19 –cymerodd ddwy flynedd arall i’r busnes fod yn gweithredu’n iawn.
O’u fferm eidion 110-erw ym Mangor Is-y-coed, mae’r cwpl yn cefnogi pobl sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth, addysg a bywyd bob dydd drwy greu cyfleoedd i ddysgu mewn lleoliad amgen.
Mae Cheryl ac Andrew hefyd yn defnyddio natur, ffermio a dysgu awyr agored i helpu pobl i ennill sgiliau newydd, dysgu am gynhyrchu bwyd a’r amgylchedd, gan feithrin hyder, gwydnwch a chysylltiadau cymunedol cryfach.
I gydnabod cyfraniad y cwmni i addysg oedolion, enillodd Agri-cation Wobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion eleni a gyflwynir yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd ar 23 Medi. Mae’r cwmni yn un o 11 enillydd gwobr.
Yn uchafbwynt yr Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru – https://adultlearnersweek.wales/?lang=cy – sy’n rhedeg o 21 i 27 Medi, mae’r gwobrau yn cydnabod rhai sydd wedi dangos ymroddiad eithriadol i ddysgu. Caiff y gwobrau eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Mae pob enillydd Gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfle, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, meithrin hyder a helpu cymunedau i ddod yn egnïol a llwyddiannus.
Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy’n awyddus i ddechrau eu taith ddysgu, caiff cyrsiau blasu wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein eu cynnal drwy gydol mis Medi ac yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion. Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i fynd ati i ddysgu fel ffordd o gynyddu eu cyflogadwyedd, adeiladu sgiliau bywyd a gwella eu hansawdd bywyd.
Wrth ymateb i’r gydnabyddiaeth, dywedodd Cheryl: “Rydym wrth ein bodd i ennill y wobr hon, sy’n cydnabod ein holl waith dros y gymuned. Gobeithio y bydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’n busnes i ardal ehangach ac agor y drws i fwy o bobl ddefnyddio ein cyfleusterau.”
Nid yw llawer o’r oedolion sy’n mynychu Agri-cation mewn gwaith, gan fod yn ynysig yn gymdeithasol neu’n byw gyda trawma, profedigaeth, cyflyrau iechyd hirdymor neu ddiffyg hyder. Yn aml, nhw yw’r rhai lleiaf tebygol o ymwneud ag addysg ac amgylcheddau dysgu traddodiadol.
Maent yn coginio gyda’i gilydd, yn adeiladu prosiectau gwaith coed, ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn yr awyr agored, dysgu technegau llesiant a gofalu am anifeiliaid.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cheryl a’i thîm o dri wedi cyflwyno 23 cwrs i Groundwork Gogledd Cymru, gyda 232 o oedolion yn dilyn y cyrsiau. Mae Agri-cation hefyd yn rhedeg cyrsiau cymunedol a gweithdai yn ymestyn ei gyrraedd ar draws gogledd Cymru.
Mae’r cyrsiau yn cynnwys Wellness in Wellies sy’n cefnogi pobl sy’n ynysig a phryderus, Dyddiau Fferm i’r Teulu ar gyfer rhieni, gofalwyr a phlant yn ystod gwyliau ysgol, Men/Women in Sheds, yn darparu sgiliau ymarferol y gellir eu trosglwyddo a Chylch Menopôs ar gyfer menywod i ailgysylltu a gwella llesiant meddwl.
Wrth edrych i’r dyfodol, mae’r tîm yn datblygu nifer o gyrsiau newydd, yn cynnwys sesiynau Lads & Dads i gryfhau perthnasoedd tad-mab, Punching Princesses i gefnogi llesiant corfforol a meddwl merched a chyfleoedd dysgu gydag achrediad Agored Cymru.
“Mae gan bob rhaglen ddiben creiddiol: dileu rhwystrau, meithrin hyder ac ailgysylltu pobl gyda chymuned a natur,” esboniodd Cheryl. “Yr hyn sy’n gwneud Agri-cation yn wahanol yw nad yw pobl yn sylweddoli eu bod yn dysgu. Drwy greu amgylcheddau croesawgar a chefnogol rydym yn helpu unigolion i ddatblygu ffyrdd nad yw’n teimlo’n ddim byd fel addysg ffurfiol.”
Dywedodd Louise Stokes, swyddog hyfforddiant Groundwork Gogledd Cymru, sy’n darparu dysgu oedolion yn y gymuned ar draws Wrecsam a Sir y Fflint: “Mae effaith Agri-cation yn mynd lawer tu hwnt i ddatblygu sgiliau.
“Mae llawer o ddysgwyr yn disgrifio’r profiad fel un sy’n trawsnewid, gan sôn am wella iechyd meddwl, cynyddu hunan-gred, adnewyddu cymhelliant ac ymdeimlad clir o berthyn.”
Ychwanegodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith:
“Mae dysgu gydol oes yn cynnig cyfleoedd i bawb ohonom, p’un ai yw hynny i symud i yrfa newydd, dysgu sgil newydd, cefnogi ein iechyd a’n llesiant neu ddim ond gwneud rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau.
“Gall yr effaith fod yn drawsnewidiol a gallwn weld hynny drwy straeon ein enillwyr gwobrau. Mae eu hymroddiad i ddysgu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau a hefyd i’r rhai o’u hamgylch.
“Mae addysg oedolion yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac mae’n hanfodol cefnogi a dathlu oedolion yng Nghymru sy’n croesawu dysgu, gan weithiau oresgyn heriau personol sylweddol i wneud hynny. Mewn byd sy’n newid yn gyflym, mae’r neges i ddal ati i ddysgu yn bwysicach nag erioed.”
I ganfod beth sy’n digwydd yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion ac i gael cyngor personol ar eich opsiynau dysgu eich hun a’r gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch â Cymru’n Gweithio ar 0800 028 4844 neu chwilio https://cymrungweithio.llyw.cymru.

