Ystafell berthnasau wedi’i hadnewyddu yn darparu hafan ddiogel i deuluoedd cleifion yr Uned Gofal Dwys 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu gwaith adnewyddu a seddi newydd gwerth dros £1,500 ar gyfer ystafell y perthnasau yn yr Uned Gofal Dwys(ICU) yn Ysbyty Glangwili. 

Refurbishments and new seating for ICU Glangwili relatives room 3

Mae ystafell y perthnasau wedi’i phaentio’n ffres ac mae ganddi seddi newydd i berthnasau cleifion ICU eistedd i lawr ac ymlacio tra i ffwrdd o’r amgylchedd gofal dwys. 

Refurbishments and new seating for ICU Glangwili relatives room 4

Derbyniodd yr ICU rodd hael hefyd gan Gynghrair Cyfeillion Ysbyty Glangwili a ariannodd y murlun (yn y llun). 

Dywedodd Tammy Bowen, Prif Nyrs: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod rhoddion elusennol wedi ein galluogi i wneud gwelliannau i’r ystafell berthnasau yn yr ICU.  

Refurbishments and new seating for ICU Glangwili relatives room 4

“Mae’r ystafell berthnasau yn darparu lle preifat, cysurus i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd i ffwrdd o’r amgylchedd clinigol. Mae’n cynnig lle i orffwys, myfyrio, a chefnogi ei gilydd yn ystod yr hyn a all fod yn amser heriol ac emosiynol. 

 
“Mae’r ystafell sydd newydd ei hadnewyddu yn cynnwys murlun ac amrywiaeth o daflenni gwybodaeth i helpu i ddarparu heddwch a sicrwydd i berthnasau sydd ag anwyliaid sy’n cael eu derbyn i Gofal Critigol.” 

Refurbishments and new seating for ICU Glangwili relatives room 2

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhrair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.” 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/ 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *