Heddiw (dydd Mercher 11 Mawrth) aeth Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant AS, draw i ddatblygiad tai Dôl-y-Ddraig ym Merthyr Tudful, cynllun adfywio blaenllaw sy’n rhoi bywyd newydd i un o leiniau diffaith safle Hoover sy’n gosod y sylfaen ar gyfer trawsnewid ledled y rhanbarth.

Gyda chefnogaeth Cronfa Bwlch Hyfywedd Tai Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) gwerth £35 miliwn, mae Dôl-y-Ddraig yn un o ddatblygiadau mwyaf datblygedig a phroffil uchel y rhaglen.

O dan adain Davies Homes, mae’r prosiect yn troi darn segur o Ardal Adfywio Strategol Hoover yn gymuned ddeiliadaeth gymysg newydd fywiog o 200 o gartrefi. Mae’n enghraifft amlwg o genhadaeth ehangach y Gronfa Bwlch Hyfywedd Tai, sef adfywio tir llwyd sy’n cyfateb i 132 o gaeau pêl-droed, gan ddarparu 2,500 o gartrefi a chefnogi mwy na 3,000 o swyddi ledled de-ddwyrain Cymru.

Yn ystod yr ymweliad, aeth Ysgrifennydd y Cabinet ar daith o amgylch y safle, gwelodd gartrefi mewn gwahanol gamau o gael eu hadeiladu a chwrdd â chynrychiolwyr o PRC a Davies Homes i drafod effaith y datblygiad ar gyflenwad tai, creu lleoedd ac adfywio economaidd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: “Mae Dôl-Y-Ddraig yn enghraifft bwerus o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn datgloi potensial safleoedd sy’n ddiffaith ers amser maith ac yn eu troi’n lleoedd y mae pobl yn falch o’u galw’n gartref.

“Mae’r Gronfa Bwlch Hyfywedd Tai, y mae Llywodraeth Cymru wedi’i chefnogi gyda £15 miliwn o gyllid cyffredinol, yn enghraifft arall o sut rydym ni’n gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni dros Gymru – gan ddod â mwy o gartrefi i’r cymunedau sydd eu hangen fwyaf, wrth greu swyddi a chefnogi twf economaidd.
“Mae gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud yma ym Merthyr Tudful yn ysbrydoledig a hoffwn ddiolch i bawb sy’n cymryd rhan am eu hymrwymiad i’r prosiect trawsnewidiol hwn.”
Mae PRC yn un o ddinasoedd-rhanbarth y DU, sy’n dod â deg awdurdod lleol ynghyd ar draws de-ddwyrain Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraethau Cymru a’r DU, i ysgogi twf economaidd cynhwysol trwy fuddsoddi mewn seilwaith, sgiliau, arloesedd a datblygu cynaliadwy. Ychwanegodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr PRC:
“Mae Dôl-y-Ddraig yn dangos y gwahaniaeth y gall buddsoddiad rhanbarthol wedi’i dargedu ei wneud nid yn unig wrth adeiladu cartrefi newydd, ond wrth roi bywyd newydd i gymunedau, datgloi safleoedd sydd ar stop a hybu economïau lleol. Y datblygiad hwn yw’r union yr hyn y cynlluniwyd y Gronfa Bwlch Hyfywedd Tai i’w gyflawni ac mae’n wych gweld y safle’n ymffurfio.
“Pleser yw gweithio gyda phartneriaid fel Davies Homes i ddarparu buddion hirdymor i bobl a lleoedd ledled de-ddwyrain Cymru.”
A hwythau’n falch o fod yn rhan o’r prosiect, dywedodd Matthew Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Davies Homes:
“Rydym ni’n hynod falch o’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn Dôl-y-Ddraig. Mae’r safle hwn wedi eistedd yn segur ers blynyddoedd lawer ac mae ei weld yn dod yn gymdogaeth ffyniannus o ansawdd uchel yn hynod werthfawr. Mae’r gefnogaeth gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi bod yn hanfodol wrth symud y datblygiad hwn yn ei flaen, ac rydym ni’n falch ddarparu cartrefi newydd a fydd o fudd i’r gymuned am genedlaethau i ddod.”
