Busnesau lleol yn cefnogi dysgu sy’n gysylltiedig â gwaith i ddisgyblion Unedau Cyfeirio Disgyblion Caerdydd

Mae dysgwyr o unedau cyfeirio disgyblion Bryn y Deryn a hefyd Cân y Deryn yng Nghaerdydd wedi cymryd rhan mewn cyfres o ymweliadau a gweithdai gan gyflogwyr. 

Mae Unedau Cyfeirio Disgyblion yn cefnogi plant a phobl ifanc na allant fynychu ysgol brif ffrwd, boed oherwydd cyflwr iechyd tymor byr neu hirdymor, gwaharddiad, neu tra byddant yn aros am le ysgol addas.

Hwyluswyd y gweithgareddau gan Adrian Cole, cynghorydd cyswllt busnes yn Gyrfa Cymru, a chynigiwyd cyfle i ddysgwyr archwilio ystod eang o swyddi a diwydiannau, o adeiladu a thrafnidiaeth i ffasiwn, harddwch a gofal cymdeithasol.

Profiadau ymarferol gyda chyflogwyr lleol

Drwy gydol tymhorau’r hydref a’r gwanwyn y llynedd, cymerodd disgyblion ran mewn ymweliadau â chyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant gan gynnwys:

  • Gwasanaethau Trafnidiaeth Caerdydd, lle aethant ar daith dywys gyrfaoedd ac archwilio’r cyfleusterau gwasanaethu ac MOT. 
  • Stiwdio Harddwch Superdrug, lle ymunon nhw â gweithdy colur a dysgu am yrfaoedd mewn harddwch a chyrsiau yn y coleg.
  • Taylor Wimpey, lle buont yn cymryd rhan mewn gweithdy gosod brics.
  • Cynghrair Sgrin Cymru, lle cafodd disgyblion weithdai gyrfa ar golur theatrig ac effeithiau gweledol.
  • Gofalwn Cymru a Heddlu De Cymru, lle archwiliodd dysgwyr yrfaoedd ym meysydd gofal a phlismona.
  • Canolfan Mileniwm Cymru, lle mynychodd disgyblion weithdy i rigio eu systemau goleuadau a sain eu hunain a chreu arddangosfa oleuadau.
  • Cwmni adeiladu Sacyr, lle gwahoddwyd disgyblion i fynd ar daith o amgylch safle Canolfan Ganser newydd Felindre y mae Sacyr UK yn ei adeiladu i ddysgu am yrfaoedd a llwybrau adeiladu.

Dywedodd llawer o ddysgwyr fod y profiadau wedi eu helpu i ddarganfod diddordebau gyrfa newydd a theimlo’n fwy hyderus am y dyfodol. Mae un disgybl bellach yn gwneud cais am brentisiaeth yng Ngwasanaethau Trafnidiaeth Caerdydd, ac un arall wedi penderfynu dilyn cwrs colur yn y coleg ar ôl gweithdy Superdrug. Dywedodd un dysgwr a fynychodd y sesiwn peiriannau adeiladu ei fod nawr am gael hyfforddiant fel gweithredwr peiriannau.

Cafodd disgyblion gyfle hefyd i ymarfer eu sgiliau cyfweliad drwy gyfweliadau ffug un-i-un gydag amrywiaeth o gyflogwyr, gan helpu i feithrin eu hyder ar gyfer sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Dysgwyr wedi’u hysbrydoli i ddilyn gyrfaoedd newydd

Ers hynny mae cwmni adeiladu Sacyr wedi cytuno i ddod yn Bartner Gwerthfawr i grŵp ysgolion y Deryn. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd Sacyr yn cynnal ymweliadau â safleoedd a gweithdai ymarferol rheolaidd i barhau i ysbrydoli dysgwyr a chefnogi eu datblygiad gyrfa yn y sector. 

Bydd hyn yn dechrau gydag ymweliad ‘Annog Merched i faes Adeiladu’ â’r safle gyda gweithdai rhyngweithiol lle bydd disgyblion benywaidd yn clywed gan staff benywaidd sy’n gweithio ar y safle adeiladu ac yn dysgu mwy am sut y cawsant eu hysbrydoli i weithio o fewn y sector.

Dywedodd Dominique Deacon, athro gyrfa ym Mryn y Deryn / Cân y Deryn: “Mae gweithio gyda Gyrfa Cymru eleni wedi bod mor werthfawr i gefnogi datblygiad personol y dysgwr.

“Mae gan lawer o’n dysgwyr anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol, felly mae o’r pwys mwyaf ein bod yn cynnig profiadau gwerthfawr, ymarferol a bywyd go iawn iddynt. Mae hyn wedi cael ei hwyluso gan Gyrfa Cymru, sydd wedi cynnig llawer o gyfleoedd i’n dysgwyr gael mynediad at ddiwydiant go iawn.”

Dywedodd Adrian Cole: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda disgyblion Unedau Cyfeirio Disgyblion Bryn y Deryn a hefyd Cân y Deryn. Mae’r dysgwyr wedi ymgysylltu’n hynod o dda â chyflogwyr ac wedi manteisio ar y cyfleoedd a roddwyd iddyn nhw.

“Rwy’n edrych ymlaen at ymweliadau gan gyflogwyr yn y dyfodol ac at weithio gyda chwmni adeiladu Sacyr a’r ysgol i helpu i ddatblygu’r berthynas Partner Gwerthfawr hirdymor hon.”

Dywedodd Joanne O’Keefe, cydlynydd buddion cymunedol Sacyr: “Rydym yn falch iawn o wneud ymrwymiad hirdymor i gefnogi grŵp ysgolion Y Deryn tra byddwn ar y safle. Ein blaenoriaeth fydd hysbysu, addysgu ac ysbrydoli disgyblion drwy ein partneriaeth werthfawr, gan ddangos iddyn nhw fod adeiladu a pheirianneg yn llwybr gyrfa hyfyw, cyraeddadwy a chyffrous iddyn nhw ar ôl addysg.”

Sbarduno cyfleoedd ledled Cymru

Yn ystod 2024-25, darparodd Gyrfa Cymru wasanaeth ymgysylltu â chyflogwyr pwrpasol i ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru, gan gynnal 197 o sesiynau wedi’u cefnogi mewn 69 o leoliadau gwahanol. 

Am ragor o wybodaeth am sut y gall cyflogwyr weithio gydag ysgolion i ddarparu addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith i bobl ifanc, ewch i wefan Gyrfa Cymru neu cysylltwch â businessengagementadvisers@careerswales.llyw.cymru.  

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *