Mae seiclwr o Geredigion wedi cwblhau taith seiclo noddedig anferth 100 milltir ar draws y sir i godi arian ar gyfer gwasanaeth diabetes.

Ymgymerodd Keith Henson â’r her seiclo ym mis Gorffennaf eleni i nodi 40 mlynedd o fod â diabetes Math 1 – ac i roi yn ôl i nyrsys diabetig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Llongyfarchiadau i Keith, wrth iddo lwyddo i godi mwy na £1,600 at yr achos.

Ymunodd ffrindiau a theulu â Keith ar gyfer y daith noddedig o’r Borth i Genarth, lle ceisiodd basio’r rhan fwyaf o feddygfeydd ar y ffordd. Ar hyd y daith, roedd y seiclwyr yn ymweld â phentrefi a threfi fel Aberystwyth, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron a Chei Newydd ac roeddent wedi stopio’n gyson i gael bwyd gan ffrindiau, teulu a staff Meddygfa Tanyfron yn Aberaeron. 

Dywedodd:“Roedd yn her fawr seiclo 100 milltir o Borth i Genarth a 66 milltir o Aberystwyth i Genarth.”

Fodd bynnag, esboniodd Keith fod y tywydd yn braf a’i fod yn “reid bleserus mewn amodau da”.

“Hoffwn ddiolch i ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chyd-gynghorwyr, yn ogystal â staff y feddygfa yn Nhanyfron,” ychwanegodd.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y bwrdd iechyd: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Keith am ymgymryd â her mor epig i gefnogi’r gwasanaeth diabetes.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *