Mae cyn-gartref rhamantus un o feirdd enwocaf Cymru wedi dathlu carreg filltir ryfeddol drwy gynnal ei briodas gyntaf ar 21 Mehefin 2025. Mewn seremoni hardd ar y teras gyda golygfeydd panoramig o aber Taf, Megan a Tom oedd y cwpl cyntaf i gyfnewid eu haddunedau yng Nghartref Dylan Thomas yn Nhalacharn. Yn dilyn y seremoni, cafodd y cwpl yr anrhydedd o lofnodi’r gofrestr briodas yn Sied Ysgrifennu enwog Dylan Thomas, lle ysgrifennwyd rhai o’i weithiau mwyaf nodedig.
Mae CofGâr, gwasanaeth amgueddfeydd a chelfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin, yn cydweithio â Chofrestryddion Sir Gaerfyrddin i gynnig pecynnau gwasanaethau priodas a seremonïau gweinydd wedi’u teilwra. Mae’r gwasanaeth wedi’i ddarparu gan CofGâr a Chofrestryddion Sir Gaerfyrddin yn cyfuno arbenigedd, gofal a phrofiad i gynnig amrywiaeth o becynnau dathlu cyffrous.
Mae Cartref Dylan Thomas yn ymuno â’r Amgueddfa Cyflymder ac Amgueddfa Parc Howard fel lleoliadau unigryw ar gyfer priodasau a gwasanaethau dathlu.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Megan a Tom am ddewis Cartref Dylan Thomas ar gyfer eu diwrnod arbennig. Allen ni ddim bod wedi gofyn am gwpl hapusach neu fwy hael i agor yr amgueddfa fel lleoliad priodas.
Mae’r amgueddfa yn lleoliad perffaith ar gyfer priodasau a dathliadau bach ac yn cynnig cymysgedd unigryw o gynhesrwydd a swyn hanesyddol mewn lleoliad syfrdanol.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’n partneriaeth gyda’r gwasanaeth Cofrestryddion i ddarparu llawer mwy o achlysuron arbennig yn amgueddfeydd CofGâr yn y dyfodol.”
Os ydych chi’n chwilio am leoliad unigryw a hardd ar gyfer eich priodas neu achlysur arbennig, gallwch chi gysylltu â CofGâr drwy e-bostio gwybodaeth@cofgar.cymru neu ffonio 01267 228696.
