Yn dilyn llwyddiant mawr ei raglen gyntaf, mae Mentera, cwmni nid-er-elw sy’n ymroddedig i gefnogi busnesau Cymru, yn falch iawn o gyhoeddi lansiad SBARC Ceredigion. Mae’r fenter entrepreneuriaeth uwch hon, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (Llywodraeth y DU) yn cael ei gweinyddu gan dîm Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Ceredigion. Mae rhaglen SBARC Ceredigion wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer y sir, a gall unigolion a sefydliadau bellach ymgeisio am un o dair lefel gwahanol o gymorth.
Profodd prosiect cyntaf SBARC Ceredigion, a lansiwyd ym mis Medi 2023, i fod yn effeithiol iawn. Rhoddodd ddealltwriaeth a phrofiadau dysgu gwerthfawr i 24 o entrepreneuriaid uchelgeisiol, a hynny gan ffigurau blaenllaw yn lleol ac yn rhyngwladol. Manteisiodd y rhai a gymerodd ran yn y prosiect ar benwythnosau preswyl, taith astudio, a’r cyfle i ennill tystysgrif uwchraddedig mewn Arwain Newid (Lefel 7) o Brifysgol Aberystwyth. Mae rhaglen SBARC Ceredigion yn adeiladu ar y sylfaen hon, gyda’r nod o ehangu ei chyrhaeddiad a’i heffaith hyd yn oed ymhellach.
Mae SBARC Ceredigion yn cyflwyno dull haenog cynhwysfawr o feithrin talent entrepreneuraidd ym mhob cam:
- Sbarduno: Mae’r lefel hon yn canolbwyntio ar ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid. Bydd Mentera yn ymweld ag ysgolion a sefydliadau ieuenctid ledled Ceredigion i gyflwyno sesiynau unigryw ar entrepreneuriaeth, gan ennyn diddordeb a photensial.
- Tyfu: Bydd carfan Tyfu, sydd ar gyfer unigolion sydd wrthi’n datblygu syniad busnes neu’r rhai sy’n awyddus i ddechrau eu menter eu hunain, yn cymryd rhan mewn tri digwyddiad preswyl dwys. Mae disgwyl i ddau benwythnos preswyl gorfodol gael eu cynnal yng Ngheredigion ar 26–28 Medi a 28–30 Tachwedd. Bydd yna hefyd daith breswyl a fydd yn mynd ag unigolion i wlad sy’n enwog am ei hecosystem entrepreneuraidd fywiog.
- Ffynnu: Ar gyfer perchnogion busnes sefydledig sy’n ceisio ehangu a thyfu, mae Ffynnu yn cynnig rhaglen gymorth strwythuredig sy’n cyfuno cefnogaeth bersonol (1:1), cyngor arbenigol pwrpasol, hyfforddiant busnes, a sesiynau grŵp. Nod y rhaglen ddwys hon, a fydd yn rhedeg o fis Medi i fis Rhagfyr 2025, yw gyrru twf go iawn, wedi’i deilwra ar gyfer pob busnes, boed yn ariannol, gweithredol, strategol neu’n seiliedig ar effaith. Ymhlith y prif ymrwymiadau mae diwrnod rhagarweiniol gorfodol yng Ngheredigion ar 9 Medi 2025; cyfres o sesiynau 1:1 ar-lein gydag arbenigwyr busnes; sesiwn hanner diwrnod/gyda’r nos ym mis Hydref; ymweliad maes ym mis Tachwedd â busnesau sydd â phrofiad o dwf yng Ngheredigion a’r siroedd cyfagos; a digwyddiad cloi ym mis Rhagfyr.
Bydd Gweithdy Sbarduno Busnes agored hefyd yn cael ei chynnal rhwng 12:30 a 14:00 ddydd Mercher, 16 Gorffennaf, yn ArloesiAber, lle bydd angen cofrestru am le. Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb i gysylltu â sbarc@mentera.cymru i sicrhau eich lle.
Gallwch bellach ymgeisio am bob un o’r tair lefel o SBARC Ceredigion. Anogir ysgolion a sefydliadau ieuenctid sydd â diddordeb mewn cynnal sesiynau Sbarduno i gysylltu â ni ar sbarc@mentera.cymru. Gwahoddir darpar entrepreneuriaid a pherchnogion busnes sefydledig sy’n byw neu’n gweithio yng Ngheredigion i wneud cais am raglenni Tyfu a Ffynnu cyn 9am, 4 Awst 2025.
Dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau Mentera, wrth lansio’r rhaglen:
“Ym Mentera, credwn yn gryf mai ar fusnesau ffyniannus yr adeiledir Cymru ffyniannus. Mae SBARC Ceredigion yn ymgorffori ein 35 mlynedd o brofiad o gynnig cyngor a chymorth o’r radd flaenaf, gan ddefnyddio ein harbenigedd dwfn a’n cysylltiadau cryf ag arweinwyr diwydiant. Gyda Sbarduno, Tyfu, a Ffynnu, rydyn ni’n creu llwybr cadarn i rymuso unigolion ar bob cam o’u taith fel entrepreneuriaid, gan sicrhau bod busnesau Ceredigion yn gallu cystadlu’n hyderus ar lwyfan y byd.”
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio:
“Mae lansio SBARC Ceredigion yn dynodi cam beiddgar ymlaen i ddatgloi potensial entrepreneuraidd ein rhanbarth – drwy gynnig cymorth teilwredig ar draws pob cam o’r broses o ddatblygu busnes, o ennyn diddordeb cynnar mewn ysgolion i gyflymu twf i fentrau sefydledig. Nod y fenter hon yw gyrru cynnydd economaidd ystyrlon ac mae hefyd yn fuddsoddiad yn nyfodol Ceredigion, gan rymuso unigolion dawnus lleol i arloesi, arwain a ffynnu.”
Fel un a gymerodd ran yn SBARC, rhannodd Dr Helen Whiteland ei phrofiad:
“Roedd y rhaglen SBARC yn brofiad gwirioneddol drawsnewidiol. Bu’r sesiynau mentora, yr wybodaeth, a’r cysylltiadau y gwnes i eu meithrin yn amhrisiadwy wrth fy helpu i fireinio fy syniad busnes ac ennill yr hyder i fynd amdani. Dwi’n falch iawn o weld SBARC Ceredigion yn dychwelyd gyda chymorth hyd yn oed yn fwy teilwredig, a dwi’n annog unrhyw un sydd â breuddwyd entrepreneuraidd i fanteisio ar y cyfle rhagorol hwn.”
Am ragor o wybodaeth am SBARC Ceredigion, ewch i: https://mentera.cymru/cy/sbarc-ceredigion/ neu e-bostiwch: sbarc@mentera.cymru
