Mae Gyrfa Cymru wedi lansio dau offeryn digidol newydd sydd wedi’u cynllunio i helpu unigolion ledled Cymru i archwilio cyfleoedd swyddi a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus am eu dyfodol.
Mae’r offeryn Chwilio am Swydd a’r Cwis Gwneud Penderfyniadau bellach ar gael ar wefan Gyrfa Cymru. Mae’r offer yn rhan o waith parhaus Gyrfa Cymru i wella mynediad at gymorth gyrfaoedd a darparu adnoddau ymarferol a hawdd eu defnyddio i bobl o bob oed.
Chwilio am Swydd
Mae’r offeryn Chwilio am Swydd newydd yn caniatáu i ddefnyddwyr archwilio swyddi amser real ledled Cymru, diolch i ffrwd awtomatig gan wasanaeth “Dod o hyd i swydd” yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae’r offeryn yn galluogi defnyddwyr i:
- Chwilio am swyddi gwag a phrentisiaethau drwy ddefnyddio hidlydd i’w rhestru yn ôl categori diwydiant, lleoliad a phellter, ystod cyflog a math o gontract
- Dod o hyd i gyfleoedd gyda chyflogwyr “Hyderus o ran Anabledd”
- Darganfod pa swyddi sydd ar gael yn lleol
- Ehangu eu hymwybyddiaeth o’r farchnad swyddi
Dywedodd Emma Benger, Rheolwr Prosiect Cymru’n Gweithio yn Gyrfa Cymru: “Rydym yn llawn cyffro i gynnig ffordd syml a hygyrch i gwsmeriaid ddod o hyd i gyfleoedd gwaith.
“Mae’r offeryn Chwilio am Swydd newydd yn ychwanegiad ardderchog at y wefan, gan ehangu’r ystod o wasanaethau sydd ar gael i helpu pobl i ddod o hyd i waith. Mae’n cefnogi cynllunio gyrfaoedd drwy ddarparu data amser real am y swyddi sydd ar gael a sbarduno syniadau ar gyfer y cam nesaf.”
Mae’r offeryn Chwilio am Swydd ar gael ar wefan Gyrfa Cymru yn Gymraeg a’r Saesneg.
Cwis Gwneud Penderfyniadau
Mae’r Cwis Gwneud Penderfyniadau newydd yn offeryn cyflym a hawdd sydd wedi’i gynllunio i helpu defnyddwyr i ddeall eu ffordd nhw o wneud penderfyniadau. Nid oes angen mewngofnodi, ond gall y rhai sy’n mewngofnodi gadw eu canlyniadau i’w defnyddio yn y dyfodol.
Mae’r cwis yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y canlynol:
- Disgyblion blwyddyn 9 sy’n dewis pynciau TGAU
- Pobl ifanc sy’n archwilio opsiynau ôl-16 ac ôl-18
- Unigolion sy’n derbyn canlyniadau arholiadau ac yn penderfynu ar y camau nesaf
- Pobl sy’n newid gyrfa sy’n ystyried newid cyfeiriad gyrfa
- Unrhyw un sy’n teimlo’n ansicr ynghylch ei gamau nesaf
Dywedodd Emma Blandon, Pennaeth Digidol a Chyfathrebu yn Gyrfaoedd Cymru: “Gall gwneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol fod yn heriol, waeth beth fo’ch oedran neu’ch sefyllfa.
“Mae’r Cwis Gwneud Penderfyniadau yn helpu unigolion i fyfyrio ar sut maen nhw’n gwneud dewisiadau ac yn dysgu technegau ymarferol i feithrin hyder yn eu penderfyniadau.
“P’un a ydych chi’n fyfyriwr, yn chwilio am swydd, neu’n newid gyrfa, mae’r offeryn hwn yn cynnig arweiniad i’ch helpu i gymryd y cam nesaf yn glir.”
Mae’r Cwis Gwneud Penderfyniadau ar gael ar wefan Gyrfa Cymru, drwy ddilyn y dolenni hyn:
- Fersiwn Gymraeg:Cwis Gwneud Penderfyniadau
- Fersiwn Saesneg: Decision Making Quiz
