Digwyddiad Ffermio’r Ucheldir a’r Fferm Hafod y Llan yn Arddangos Ffermio Mynydd Modern Wrth Droed Yr WyddfaRWAS Feature County for 2025, Caernarfon host the Hill Farming Event at Hafod y Llan Farm Beddgelert 12_06_2025

Roedd mawredd trawiadol Yr Wyddfa yn gefndir i Ddigwyddiad Ffermio’r Ucheldir llwyddiannus iawn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC), a gynhaliwyd yn Hafod y Llan – fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n ymestyn o Feddgelert hyd at gopa’r mynydd.
 
Nod y digwyddiad oedd codi arian tuag at ymgyrch codi arian Sir Nawdd CAFC 2025, Caernarfon, yn ogystal â dod â phobl ynghyd. Fe wneith aros yng nghof nifer fel cyfle unigryw i brofi ffermio mynydd ac i gael cipolwg ar y modd y mae amaethyddiaeth fodern, cadwraeth, twristiaeth a hanes yn cyd-fyw.
 
Agorwyd y digwyddiad gan gyn-berchennog Hafod y Llan, Richard Williams, a oedd yn Llywydd y Dydd. Gwahoddodd y cyhoedd i ddeall a gweld sut mae ffermio, cadwraeth, y diwydiant twristiaeth a gwaith mewn Parc Cenedlaethol yn datblygu.
 
Ymhlith yr arddangosiadau roedd tractorau robotig, systemau rheoli stoc heb ffensys, seminarau a gweithgareddau ymarferol. Roedd Rhys Eifion Griffith, Llysgennad y Sioe Frenhinol, yn arwain ei Geffylau Gwedd fel rhan o arddangosfa Cymdeithas Ceffylau Gwedd Gogledd Cymru, a’r tractor cyntaf a ddaeth i Ddyffryn Nant Gwynant yn 1951 oedd yn ganolbwynt yng nghalon y fferm.
 
Cymerodd ymwelwyr ran mewn teithiau cerdded i Lwybr Watkin, un o’r prif lwybrau i gopa’r Wyddfa, a oedd yn cynnwys tirlun garw hyd at 1000 metr uwchben lefel y môr. Roedd y diwrnod yn gyfuniad o ffermio, arloesi a thraddodiad, gyda’r daith yn cynnwys y rhaeadr, llwybr gwartheg, ac un o bedwar cynllun hydro-electrig ar y safle, gyda’r gallu i gyflenwi trydan i 610 o gartrefi bob blwyddyn.
Dywedodd Llywydd CAFC, John Owen, ei fod ef, Cadeirydd y Digwyddiad, Bedwyr Jones, a Rheolwr Fferm Hafod y Llan, Arwyn Owen, yn gwerthfawrogi’n fawr waith y pwyllgor llywio a’r gwirfoddolwyr am eu cyfraniad tuag at lwyddiant y digwyddiad. Diolchodd i bawb a fu’n rhan o’r diwrnod – gan gynnwys noddwyr, stondinau masnach a’r holl ymwelwyr a deithiodd o bell ac agos i’r ardal eiconig hon.
 
Ymhlith yr arddangosiadau roedd ffermwyr ifanc yn cneifio ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau rhyng-golegol. Cafwyd arddangosiadau o gŵn defaid yn casglu da byw a chŵn achub mynydd ar waith. Trafodwyd arloesi, geneteg a dyfodol ffermio ucheldir mewn seminarau, yn ogystal ag effaith polisïau’r Llywodraeth, datblygiadau mewn porfa a systemau ffermio, a phrofiad uniongyrchol y tenant ffermwr Dan Jones, sy’n ffermio dan denantiaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *