Byddwch yn barod am swydd haf gydag ap CThEF
  • Gall pobl ifanc sy’n gwneud cais am swydd yr haf hwn lawrlwytho ap CThEF i gael mynediad ar unwaith at y manylion treth a chyflog sydd eu hangen arnynt
  • Mae mwy na 1.2 miliwn o bobl ifanc 25 oed ac iau wedi lawrlwytho ap CThEF hyd yn hyn
  • Gellir defnyddio ap CThEF i gael mynediad at rif Yswiriant Gwladol unigolyn, hanes cyflogwr, cod treth a manylion cyflog

Gall pobl ifanc sy’n gorffen ysgol, coleg neu brifysgol ac yn gobeithio ennill arian ychwanegol ar ôl eu harholiadau lawrlwytho ap CThEF i gael y manylion sydd eu hangen arnynt i fod yn barod am swydd haf, meddai Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Mae gan bobl sy’n chwilio am waith sy’n defnyddio ap CThEF eu hanes cyflogaeth wrth law i gyflwyno eu cais am swydd yn brydlon. Unwaith y byddant yn dechrau gweithio, mae ap CThEF yn golygu y bydd ganddynt eu cod treth a’u rhif Yswiriant Gwladol (YG) i’w rhoi i’w cyflogwr i sicrhau eu bod yn cael eu talu’n gywir ac yn talu’r swm cywir o dreth, gan roi mwy o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio.

Rhwng mis Mai a mis Awst y llynedd, ar gyfartaledd roedd 40,000 o bobl ifanc ychwanegol yn cael eu cyflogi bob mis o’i gymharu â mis Medi i fis Rhagfyr. P’un a yw pobl ifanc yn chwilio am waith yn y diwydiant lletygarwch, hamdden, manwerthu neu gasglu ffrwythau, mae lawrlwytho ap CThEF yn gwneud cais am swydd yn syml, gan roi mynediad ar unwaith iddynt at y manylion treth a chyflog sydd eu hangen arnynt heb fawr o drafferth.

Mae pobl ifanc yn ffurfio un rhan o bump o holl ddefnyddwyr ap CThEF gyda mwy na 1.2 miliwn o bobl 25 oed ac iau yn ei lawrlwytho erbyn mis Ebrill 2025.

Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:

Mae ennill arian ychwanegol yn bwysig pan fydd gan bobl ifanc amser segur o astudio. Mae lawrlwytho ap CThEF yn ffordd syml o sicrhau y gallant wneud cais am eu swydd yn gyflym a mynd ati i ennill arian ychwanegol.

Un o’r darnau pwysicaf o wybodaeth sydd ei angen ar bobl sy’n gwneud cais am swydd wrth ddechrau swydd newydd yw eu rhif YG. Ffoniodd mwy na 146,000 o bobl linell gymorth Yswiriant Gwladol yn y 12 mis hyd at ddechrau mis Ebrill gan nodi eu bod wedi colli neu wedi anghofio eu rhif Yswiriant Gwladol.

Mae’n gyflymach ac yn haws i unigolion gael mynediad at eu rhif Yswiriant Gwladol drwy ap CThEF. Gallant ei lawrlwytho i’w gadw’n ddiogel yn waled ddigidol eu ffôn i’w ddefnyddio pryd bynnag y bo angen. Yn y 12 mis hyd at fis Ebrill 2025, roedd bron i 90,000 o lawrlwythiadau rhif Yswiriant Gwladol gan ddefnyddwyr apiau 25 oed ac iau.

Dylai pobl ifanc gadw eu rhif Yswiriant Gwladol yn ddiogel yn eu waledi digidol a’i rannu â phobl fel cyflogwr yn unig, er mwyn helpu i atal twyll hunaniaeth posibl.

Mae CThEF hefyd yn atgoffa pobl ifanc sy’n dechrau swydd newydd i wirio eu slipiau cyflog yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn cael eu talu’r hyn y mae ganddynt hawl i’w gael o dan ofynion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os oes ganddynt unrhyw bryderon nad ydynt cael y cyflog cywir, gallant gysylltu â CThEF neu ACAS i wneud cwyn.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *