Ethol y Cynghorydd Dot Jones yn Gadeirydd newydd y Cyngor Sir

Mae’r Cynghorydd Dot Jones, aelod dros Ward Llannon, wedi ei hethol i’r gadwyn swyddogol yng Nghyfarfod Blynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw, ddydd Mercher 21 Mai 2025.

Wrth gymryd y gadeiryddiaeth talodd y Cynghorydd Jones deyrnged i’r Cadeirydd a oedd yn gadael ei swydd, sef y Cynghorydd Handel Davies, gan ddiolch iddo am ei wasanaeth i’r Cyngor.

Y Cynghorydd Jones fydd Cadeirydd y Cyngor am y 12 mis nesaf. Ei chydymaith fydd ei chwaer, Mrs Ellen Davies, a’r Is-gadeirydd fydd y Cynghorydd Giles Morgan, aelod dros Ddyffryn y Swistir.

Yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol, dywedodd y Cynghorydd Dot Jones, Cadeirydd y Cyngor:

Mae’n anrhydedd anhygoel cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ar y gwaith sydd i ddod mewn blwyddyn brysur a boddhaol.”

Mae’r Cynghorydd Jones wedi dewis Beiciau Gwaed Cymru fel ei helusen yn ystod ei thymor yn y swydd. 

Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chaiff ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Ymhlith dyletswyddau’r swydd mae bod yn gadeirydd ar gyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli’r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i’r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a’u cefnogi.

Mae’r Cynghorydd Jones wedi bod yn Gynghorydd Sir ers mis Mai 2017 ac mae’n rhan o’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol, y Pwyllgor Trwyddedu, a’r Panel Rhianta Corfforaethol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *