NTFW yn paratoi ‘Maniffesto ar gyfer Prentisiaethau a Sgiliau’ ar gyfer etholiad y SeneddLisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW.

Mae’r sefydliad sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru yn bwriadu paratoi ‘Maniffesto ar gyfer Prentisiaethau a Sgiliau’ yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn ymgyrchu dros adfer y swm o £32.7 miliwn a dorrwyd o gyllideb prentisiaethau Llywodraeth Cymru y llynedd.

Yng Nghynhadledd Flynyddol yr NTFW fis diwethaf, addawodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau, a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant ymrwymiad “cadarn” Llywodraeth Cymru i brentisiaethau, gan ddweud bod y cyllid yn cael ei gadw ar yr un lefel eleni.

Bydd yr NTFW yn brysur yn lobïo gwleidyddion ac yn hyrwyddo’r ‘Maniffesto ar gyfer Prentisiaethau a Sgiliau’ yn y cyfnod cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf.

Cynhadledd flynyddol lwyddiannus, dau ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru, cyfres o gyfarfodydd pwysig a lobïo parhaus ar ran aelodau – llwyddodd yr NTFW i wasgu’r cyfan i mewn i chwarter cyntaf prysur 2025.

Ar ddechrau’r chwarter, cynhaliwyd cyfarfod Deiliaid Contractau Prentisiaethau (ACH) ar gyfer y 10 deiliad contract a gomisiynwyd. Mae trafodaethau ar gylchred y Fframwaith ac adolygiadau ohono, contractio a’r gyllideb ddrafft yn hanfodol i ddarparwyr hyfforddiant er mwyn sicrhau bod rhaglenni prentisiaethau yn dal yn effeithiol ac yn cael digon o arian.

Bu’r NTFW yn cydweithio â Medr, y corff newydd sy’n cyllido a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, a’r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith, ar sawl cynllun allweddol, yn cynnwys cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY), cymelldaliadau i gyflogi pobl anabl, a chydraddoldeb ac amrywiaeth.  Trafodwyd heriau i’r diwydiant adeiladu hefyd, yn enwedig yr angen am lwybr Prentisiaethau Lefel 2.

Yn ogystal, cyflwynodd yr NTFW dystiolaeth o’r anawsterau sy’n wynebu dysgwyr a chyflogwyr mewn perthynas â chyflenwi Fframweithiau Prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4 a 5.

“Treuliwyd cryn dipyn o amser yn mynychu cyfarfodydd Llywodraeth Cymru ac yn lobïo dros y misoedd diwethaf,” meddai Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW.

“Buom yn lobïo ynghylch canlyniadau anfwriadol peidio â chynyddu’r gyllideb brentisiaethau a byddwn yn dal i weithio gyda Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at yr angen am ragor o fuddsoddi.”

Cafodd yr NTFW ei gynrychioli hefyd mewn dau ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru. Roedd ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Lwybrau at Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 yn trafod rhwystrau a heriau wrth bontio o’r ysgol i brentisiaethau, gan gynnwys materion yn ymwneud â chostau byw a thrafnidiaeth.

Yn ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i Lwybrau Prentisiaethau, bu’r NTFW yn tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru gael strategaeth sgiliau ac at bwysigrwydd cynnwys cyflogwyr a chynghori pobl ifanc i wneud y dewis cywir o ran llwybr prentisiaeth pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Ym mis Chwefror, daeth nifer dda o bobl i Ffair Brentisiaethau a drefnwyd ar y cyd gan yr NTFW a ColegauCymru yn y Senedd. Yno, cafodd Gweinidogion ac Aelodau o’r Senedd weld y cyfan sydd gan brentisiaethau i’w gynnig.

Gan fod yr NTFW yn aelod o Grŵp Llywio WorldSkills, mae’n cydweithio â rhanddeiliaid eraill i baratoi ar gyfer rowndiau terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU a’u cefnogi. Fe’u cynhelir yng Nghymru yn yr hydref.

Daeth y chwarter i ben ar nodyn uchel yng Nghaerdydd gyda chinio cyntaf FAB (Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu) a Chynhadledd Flynyddol lwyddiannus yr NTFW yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yn y gynhadledd roedd siaradwyr o Cymwysterau Cymru, Medr, Agored Cymru, a City & Guilds. Un o’r uchafbwyntiau oedd y gweithdai, a arweiniwyd gan randdeiliaid allweddol yn y diwydiant a phedwar prentis a fu’n rhannu eu profiadau’n huawdl.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *