Ym mis Hydref 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu hadroddiad blaenoriaethau mesurau arbennig a oedd yn amlinellu “disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau dros y 6 mis nesaf” ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Roedd hyn yn cynnwys blaenoriaethu ymgais i leihau arosiadau o 52 wythnos i gleifion allanol cymal cyntaf o fis i fis, gwella arosiadau trosglwyddo cleifion o ambiwlansys, a sicrhau bydd mwy o gleifion yn cael eu gweld o fewn targedau cenedlaethol amseroedd aros 4 a 12 awr mewn adrannau brys.
Er i Lywodraeth Cymru nodi’r mesurau hyn fel blaenoriaethau, mae’r data diweddaraf gan BIPBC yn dangos bod ffigyrau pob un o’r mesurau hyn yn mynd y ffordd anghywir yn ôl Mabon ap Gwynfor.
Mae’r data diweddaraf gan y Bwrdd Iechyd yn dangos:
- Cododd y nifer o arosiadau dros 52 wythnos o 2,321.
- Cynyddodd nifer yr oriau a gollwyd oherwydd oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys oddeutu 2,000.
- Gwelwyd llai o gleifion o fewn y targedau cenedlaethol 4 a 12 awr mewn adrannau brys, o’i gymharu â dechrau’r cyfnod chwe mis yma.

