Dychmygwch gamu oddi ar eich trên yng ngorsaf Llundain Paddington a chlywed harmonïau cryf côr meibion o Gymru yn llonni’ch calon, yn hytrach na fwmian arferol yr orsaf.
Heddiw (dydd Iau) trawsnewidiwyd yr orsaf brysur yn neuadd gyngerdd gan Gôr Meibion Porthcawl i nodi dechrau Wythnos Cymru Llundain gyda’u lleisiau grymus, soniarus.
Am 1100, bydd teithwyr hanner tymor a chymudwyr yn gallu mwynhau perfformiad dirgrynol sy’n cipio calon ac etifeddiaeth Cymru.
Ac mae’n fwy na’r gerddoriaeth yn unig – cewch flasu lletygarwch Cymru, gyda phice ar y maen o sir Benfro ar gael am ddim trwy garedigrwydd cwmni Great Western Railway (GWR), a’r cyfle i ddarganfod y pleser o deithio ar hyd de Cymru heb gar gyda Phartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Cysylltu De Orllewin Cymru.
Dywedodd Dan Okey, Pennaeth Datblygu GWR:
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Côr Meibion Porthcawl ar ein trên, ac iddynt ganu yng ngorsaf Llundain Paddington. Rydym yn falch iawn o etifeddiaeth GWR yng Nghymru a’n timau yn Abertawe a Chaerdydd, ac wrth ein boddau’n cael cyfle i ddathlu Cymru, yng Nghymru ac ar draws rhwydwaith GWR.
“Lle mae ein staff yn siarad Cymraeg, hyd yn oed tipyn bach, rydyn ni’n falch i’w cefnogi nhw i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith – yn enwedig ar Ddydd Gŵyl Dewi. Gall ein cwsmeriaid adnabod cydweithiwr GWR sy’n siarad Cymraeg o’r Ddraig Goch ar ei fathodyn enw.”
Dywedodd Ian Williams o Gôr Meibion Porthcawl:
“Mae’n fraint anhygoel i’r côr gael ei wahodd gan gwmni Great Western Railway i ganu yng ngorsaf Paddington ar gyfer Wythnos Cymru.
“Rydym yn canu’n bennaf i gynulleidfaoedd o Gymry yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at arddangos côr o Gymru mewn lleoliad mor fawreddog, ac yn gyffrous iawn hefyd.
“Byddwn yn canu detholiad o ddarnau traddodiadol i gorau meibion a chaneuon mwy modern er mwyn diddanu’r gynulleidfa a’i gwefreiddio, gobeithio.”
Dywedodd Eve Sherratt, Swyddog Rheilffordd Gymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Cysylltu De Orllewin Cymru:
“Rydym yn falch iawn i ddathlu diwylliant Cymru yng ngorsaf Paddington, yn rhannu etifeddiaeth gyfoethog a chymunedau bywiog de orllewin Cymru gyda chynulleidfa ehangach.
“Mae hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy’n rhan allweddol o gefnogi ein heconomi lleol, o amddiffyn ein hamgylchedd, a sicrhau y bydd de orllewin Cymru’n parhau’n gyrchfan y mae’n rhaid i bawb ymweld ag ef.” Mae Croeso Cymru hefyd yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Gwneud y pethau bychain’ ar Ddydd Gŵyl Dewi (dydd Sadwrn 1 Mawrth), trwy chwifio’r Ddraig Goch neu wisgo cenhinen, er enghraifft.

Wythnos Cymru Llundain yw’r rhaglen flynyddol fwyaf o ddigwyddiadau sy’n dathlu a hyrwyddo Cymru. Mae’r arddangosfa’n caniatáu i fusnesau a sefydliadau Cymru gysylltu ac adeiladu partneriaethau â chynulleidfaoedd a leolir yn Llundain mewn digwyddiadau dros gyfnod Dydd Gŵyl Dewi; yn ystod wythnos olaf mis Chwefror ac wythnos gyntaf mis Mawrth. Cynhelir digwyddiadau eleni o ddydd Iau 20 Chwefror i ddydd Sadwrn 8 Mawrth.
Dywedodd Dan Langford, Cadeirydd Wythnos Cymru Llundain:
“Mae’r bartneriaeth â chwmni GWR wedi bod yn hwb enfawr i fenter Wythnos Cymru ers blynyddoedd lawer.
“Mae gosod hysbysebion mewn gorsafoedd o Abertawe i Paddington, a dosbarthu ein canllawiau bach am ddigwyddiadau ar seddi nifer o drenau rhwng Cymru a Llundain, yn rhoi hwb enfawr i’n gwaith hysbysebu bob blwyddyn. Mae’n gwthio brand Cymru ac yn helpu i roi gwybod i gymudwyr am y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal.
“Dyma ein nawfed flwyddyn yn olynol, ac mae oddeutu 130 o weithgareddau’n digwydd – edrychwn ymlaen at groesawu dros 10,000 o bobl i’r digwyddiadau yn ystod y pythefnos nesaf.”
Mae rhestr lawn o’r digwyddiadau ar gael yn www.walesweek.london.
Mae GWR yn rhedeg 30 o drenau bob dydd i’r ddwy ffordd rhwng Caerdydd (mwy na 20 ohonynt o Abertawe) a Llundain Paddington. Ym mis Mai 2023, cyflwynodd GWR 65 o drenau ychwanegol yn ne Cymru, gan ymestyn y gwasanaethau trên tu hwnt i Abertawe at Gaerfyrddin. Hefyd, mae gwasanaeth Pullman Dining Cymreig yn weithredol rhwng Abertawe a Llundain Paddington yn ystod yr wythnos, yn eich galluogi chi i wledda ar fwyd o’r ansawdd gorau a mwynhau rhai o’r golygfeydd gorau ym Mhrydain.

