
Mae Cynllun Placiau Glas Coffa i ddathlu pobl, lleoedd, a digwyddiadau nodedig ledled Castell-nedd Port Talbot bellach wedi agor.
O dan yr enw Placiau Glas Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, bydd y cynllun yn chwarae rhan werthfawr mewn hybu cadwraeth, drwy dynnu sylw at bobl ac adeiladau â chyswllt hanesyddol yn ein cymunedau.
Mae Placiau Glas yn ffynhonnell gwybodaeth, addysg a dathlu, byddan nhw’n creu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau i’r dyfodol fel Llwybrau Placiau Glas a dolenni cod QR i straeon ar wefan am bobl, lleoedd a digwyddiadau o bwys yn ein hanes cyffredin. Mae ganddynt y posibilrwydd o hybu treftadaeth pob cymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’r cynllun hefyd yn flaenoriaeth allweddol yn Strategaeth Dreftadaeth 2024-2039 (Adfer, Adfywio, Ailbwrpasu) y cyngor a fabwysiadwyd yn ddiweddar.
Bydd y cyngor yn ariannu dau blac y flwyddyn. Serch hynny, os oes modd i fusnes, grŵp neu unigolyn hunan-ariannu plac glas, gallan nhw gyflwyno’u henwebiad ar lein gerbron panel dethol Tîm Treftadaeth NPT: https://www.npt.gov.uk/cy/busnes/adfywio/cynllun-plac-glas-coffaol/
Bydd y panel yn gwirio a chraffu ar bob cais i sicrhau fod yr holl feini prawf wedi’u cyflawni a bod y cais yn addas, ac adroddir argymhellion y panel gerbron Aelodau Cabinet ar gyfer gwneud y penderfyniad terfynol.
Yn ôl y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae Placiau Glas yn ffordd ragorol o ddathlu beth sy’n gwneud ein lleoedd mor arbennig.
“Mae placiau’n cysylltu’r gorffennol a’r dyfodol, fe allan nhw gynyddu ymdeimlad o falchder ymysg cymunedau lleol, a gallant addysgu am hanes a threftadaeth, gan wneud y ddau’n fwy hygyrch i bobl o bob oedran a chefndir.
“Gallan nhw hefyd chwarae rôl gadwraethol bwysig, gan helpu i dynnu sylw at adeiladau sydd â chysylltiad diwylliannol a hanesyddol, a’u diogelu ar gyfer y dyfodol.
“Hoffwn annog unrhyw un i ddod ymlaen a chyflwyno’u henwebiadau i’n helpu ni i ddathlu hanes cyfoethog Castell-nedd Port Talbot.”
Bydd y seramegydd Ned Heywood yn creu’r placiau yn ein stiwdio yng Nghas-gwent. Mae Ned a’i bartner gwaith Julia Land eisoes yn creu placiau glas seramig ar gyfer English Heritage, Historic England a llawer mwy.
Bydd ffenest gyflwyno’r gyfran gyntaf o geisiadau a ariennir gan y Cyngor yn agor o 1 Ebrill 2025 tan 30 Medi 2025.
I gael mwy o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â’r Tîm Adfywio ar regeneration@npt.gov.uk
DIWEDD Y DATGANIAD I’R WASG
Nodiadau i’r Golygydd:
Mae Ned Heywood wedi cynnal Heritage Ceramics by Ned Heywood, ers 1983 o’i stiwdio yng Nghas-gwent.
