Plant meithrin yn gwisgo mewn pinc i godi arian ar gyfer uned gofal y fron

Gwisgodd staff a phlant Meithrinfa Cae’r Ffair mewn pinc ar gyfer “Diwrnod Gwisgwch Binc” ar 18 Hydref 2024 a chodwyd £500 i Uned Gofal y Fron Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd Sharon James, Perchennog Meithrinfa Cae’r Ffair: “Fe benderfynon ni godi’r arian i’r Uned Gofal y Fron gan fod gen i ganser y fron ddwy flynedd yn ôl. Roedd yn ddiolch ac yn gydnabyddiaeth i’r staff anhygoel yn yr Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Phillip.

Cae’r Ffair Nursery

“Roedd staff yr uned yn gefnogol iawn ac yn rhoi gofal ardderchog i mi yn ystod cyfnod anodd iawn, felly roedden ni fel tîm eisiau helpu drwy gynnwys y plant, rhieni a staff y feithrinfa i godi arian.

“Ni allwn ddiolch digon i’r staff am eu gwaith anhygoel yn ystod cyfnod anodd iawn. Hoffem ddiolch i’n rhieni anhygoel am eu haelioni caredig drwy gyfrannu £313.50 ar y diwrnod.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Diolch i Sharon a’r staff, plant a’u teuluoedd o Feithrinfa Cae’r Ffair am eu rhodd garedig.

Cae’r Ffair Nursery

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *