Newidiadau dramatig Cwm Kama, Mynydd Everest, dros y ganrif ddiwethaf

Wrth ddilyn yr un llwybr â’r teithiau enwog a wnaeth ragchwilio’r llwybr gogleddol i Fynydd Everest dros 100 mlynedd yn ôl, mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi helpu i ddogfennu’r newidiadau amgylcheddol a diwylliannol dramatig yn y rhanbarth.

langma la snow peak

Mae’r Athro Carl Cater, Athro Cysylltiol mewn Marchnata Twristiaeth, a’r Athro Linsheng Zhong, o Academi’r Gwyddorau Tsieina, wedi rhannu eu canfyddiadau mewn erthygl newydd a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Geographical.

Mae Everest Revisited’ yn cynnig archwiliad dwfn o Gwm Kama, rhanbarth yn Tibet sy’n arwain i fyny ochr ddwyreiniol Mynydd Everest neu Qomolangma, fel y mae y trigolion lleol yn ei adnabod.

Gan ddefnyddio lluniau a sylwadau manwl o deithiau Prydeinig rhwng 1921 a 1924 gan yr RGS a’r Alpine Club, yn ogystal â’r rhai hynny o ymweliad diweddar gan Yr Athro Cater, mae’r erthygl yn darparu cymhariaeth hanesyddol unigryw.

Wedi’i ddisgrifio fel “un o gymoedd mwyaf hardd y byd” gan Charles Howard-Bury, arweinydd taith ym 1921, dengys y lluniau diweddar pam mae’r cwm yn parhau i gadw ei hatyniad heddiw, ond maen nhw hefyd yn amlygu’r heriau neilltuol a chyflym mae Mynyddoedd Himalaia yn eu hwynebu.

Glacier cavern of Kangdoshung glacier. The stream from Kangshang glacier passes underneath

Mae un o ochrau mwyaf syfrdanol Mynydd Everest, arwyneb Kangshung, yn sefyll ddwy filltir yn uwch na’r rhewlif isod, ac er bod y mynyddoedd a’r copaon yn edrych yn debyg iawn o hyd, mae’r dirywiad yn arwyneb y rhewlifoedd isod yn nodyn atgoffa ffisegol o effeithiau newid yn yr hinsawdd.  

Meddai’r Athro Cater a’r Athro Zhong yn yr erthygl: “Mae arwyneb y rhewlif bellach wedi’i orchuddio ag ysgyrion cerrig a nifer o lynnoedd uwchrewlifol, gan adael tirwedd sy’n debyg i’r lleuad, sy’n cyferbynnu â’r arwyneb rhew heb ysgyrion ym 1921.”

Heddiw mae taith Cwm Kama yn dod yn fwy poblogaidd â cherddwyr o Tsieina, fodd bynnag mae cyfleusterau cyfyngedig i ymdopi ag effeithiau’r twristiaid newydd hyn, megis gwastraff dynol a phlastig.

Fodd bynnag, mae’r hwb mewn poblogrwydd yn cynnig buddion posib hefyd.

pethang ringmo from reconnaisance

Meddai’r Athro Cater a’r Athro Zhong: “Mae twf twristiaeth wedi dod â chyfleoedd economaidd i boblogaethau lleol, yng Nghwm Kama ond yn benodol yn Rongbuk, lle mae dinas gwersylledig bellach yn darparu ar gyfer yr amcangyfrif hanner miliwn o dwristiaid yn flynyddol sy’n cael eu cludo gan fflyd o fysus trydanol o’r hyb yn Tashizhom.

“Gall ail-ddyluniad disgwyliedig Gwarchodfa Natur Genedlaethol Qomolangma fel parc cenedlaethol yng nghynllun presennol y llywodraeth ganolog ddod â chyfleoedd ar gyfer rheoli pellach yn y cyfnod hwn o newid.”

pethang ringmo GJ

I gloi eu taith, ymwelodd yr Athro Cater â Rongbuk, gan adeiladu carnedd goffa i “anrhydeddu aberth Kellas, Mallory ac Irvine a’r naw gweithiwr o Tibet ac India a gollwyd ym 1922 a 1924 wrth archwilio’r mynydd.”

Cafodd y daith ei hariannu gan Academi’r Gwyddorau Tsieina drwy Fenter Cymrodoriaeth Ryngwladol yr Arlywydd. 

The cliffs from the spurs of Makalu on the south of the Kama valley

Mae’r awduron yn bwriadu ehangu eu canfyddiadau mewn papur a fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan. 

Darllenwch yr erthygl lawn yn Rhifyn Ionawr 2025 o Geographical.

Gweld lluniau treigl amser o daith Yr Athro Cater.

Dysgwch fwy am waith yr Athro Cater yn ei lyfr diweddaraf wedi’i olygu, The Routledge International Handbook of Adventure Tourism, gyda’r Athro Gill Pomfret a Dr Adele Doran.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *