Newidiadau i Gasgliadau Gwastraff yn ystod Cyfnod y Nadolig

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynghori preswylwyr ynghylch newidiadau i’r amserlenni casglu gwastraff dros gyfnod yr Ŵyl. Caiff preswylwyr eu hannog i edrych ar yr amserlenni diwygiedig isod.

Bagiau Ailgylchu Glas a Gwastraff Bwyd

Diwrnod Casglu ArferolDiwrnod Casglu’r Nadolig
Dydd Llun 23 RhagfyrDim newid
Dydd Mawrth 24 RhagfyrDim newid
Dydd Mercher 25 RhagfyrDydd Gwener 27 Rhagfyr
Dydd Iau 26 RhagfyrDydd Llun 30 Rhagfyr
Dydd Gwener 27 RhagfyrDydd Mawrth 31 Rhagfyr
Dydd Llun 30 RhagfyrDydd Iau 2 Ionawr
Dydd Mawrth 31 RhagfyrDydd Gwener 3 Ionawr
Dydd Mercher 1 IonawrDydd Mercher 8 Ionawr

Bagiau Du a Gwydr

Diwrnod Casglu ArferolDiwrnod Casglu’r Nadolig
Dydd Llun 23 RhagfyrDim newid
Dydd Mawrth 24 RhagfyrDim newid
Dydd Mercher 25 RhagfyrDydd Gwener 27 Rhagfyr
Dydd Iau 26 RhagfyrDydd Sadwrn 28 Rhagfyr
Dydd Gwener 27 RhagfyrDydd Sul 29 Rhagfyr
Dydd Llun 30 RhagfyrDim newid
Dydd Mawrth 31 RhagfyrDim newid
Dydd Mercher 1 IonawrDydd Iau 2 Ionawr
Dydd Iau 2 IonawrDydd Gwener 3 Ionawr
Dydd Gwener 3 IonawrDydd Sadwrn 4 Ionawr

Sylwer, os yw eich bagiau du eisoes wedi’u casglu yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 16 Rhagfyr, ni fydd y newidiadau hyn yn berthnasol i chi.

Gwastraff Hylendid a Chewynnau

Diwrnod Casglu ArferolDiwrnod Casglu’r Nadolig
Dydd Mercher 25 RhagfyrDydd Gwener 27 Rhagfyr
Dydd Iau 26 RhagfyrDydd Gwener 27 Rhagfyr
Dydd Gwener 27 RhagfyrDydd Llun 30 Rhagfyr
Dydd Mercher 1 IonawrDydd Iau 2 Ionawr

Rydym yn atgoffa preswylwyr i osod eu biniau allan erbyn 6am ar y diwrnod casglu diwygiedig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw at ddim mwy na thri bag du ac ailgylchwch gymaint â phosibl yn ystod y cyfnod prysur hwn.

Os bydd rhagor o darfu ar yr amserlen casgliadau gwastraff, bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi ar ein gwefan ar ôl 2pm ar ddiwrnod eich casgliad. Ewch i’n tudalen tarfu ar gasgliadau gwastraff/ailgylchu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Oriau Agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref dros gyfnod y Nadolig

Bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn gweithredu gydag oriau agor gwahanol dros gyfnod y Nadolig. Mae’r tabl isod yn dangos yr oriau diwygiedig:

DyddiadWern DduNant-y-cawsHendy-gwyn ar DafTrostre
Dydd Llun 23 Rhagfyr8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 2:30 pm8:30 am – 4:00 pm
Dydd Mawrth 24 RhagfyrAR GAUAR GAU8:30 am – 12 pm8:30 am – 12 pm
Dydd Mercher 25 RhagfyrAR GAUAR GAUAR GAUAR GAU
Dydd Iau 26 RhagfyrAR GAUAR GAUAR GAUAR GAU
Dydd Gwener 27 Rhagfyr8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 2:30 pm8:30 am – 4:00 pm
Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 2:30 pm8:30 am – 4:00 pm
Dydd Sul 29 Rhagfyr8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 2:30 pm8:30 am – 4:00 pm
Dydd Llun 30 Rhagfyr8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 2:30 pm8:30 am – 4:00 pm
Dydd Mawrth 31 Rhagfyr8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 2:30 pm8:30 am – 4:00 pm
Dydd Mercher 1 IonawrAR GAUAR GAUAR GAUAR GAU
Dydd Iau 2 Ionawr8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 4:00 pm8:30 am – 2:30 pm8:30 am – 4:00 pm

Ar ddydd Mawrth, 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig), bydd Wern Ddu a Nantycaws ar gau, tra bydd Whitland a Throstre ar agor tan 12:00 pm (canol dydd).

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

“Rydym yn deall bod cyfnod yr Ŵyl yn gyfnod prysur i bawb, ac rydym yn diolch i breswylwyr am eu cydweithrediad â’r newidiadau i gasgliadau gwastraff. Rydym yn cydnabod bod heriau yn ymwneud ag adnoddau dros wyliau banc diweddar wedi effeithio ar wasanaethau, ac mae’r amserlen hon wedi’i pharatoi er mwyn defnyddio’r adnoddau sydd gennym yn y ffordd fwyaf effeithlon.

Cofiwch roi eich biniau allan ar y diwrnodau diwygiedig ac ailgylchu cymaint â phosibl, rydych chi’n ein helpu ni i reoli gwastraff yn effeithlon ac yn gynaliadwy dros y gwyliau. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth a dymunwn Nadolig Llawen i bawb.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *