
Gall teithwyr nawr brofi moethusrwydd cerbyd Dosbarth Cyntaf am lai ar rai gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TrC) diolch i bartneriaeth newydd gyda Seatfrog.
Mae Seatfrog yn galluogi cwsmeriaid i brynu neu wneud cais i uwchraddio eu tocyn i un Dosbarth Cyntaf, gan sicrhau’r cysur, lletygarwch a gwasanaeth cwsmeriaid gorau am ffracsiwn o’r gost arferol.
Mae bellach ar gael ar rai o wasanaethau mwyaf poblogaidd TrC rhwng Caerdydd a Chaergybi a Chaerdydd a Manceinion.
Dywedodd Jonathan Jones, Pennaeth Twf Rhwydwaith TrC: “Rydym yn falch iawn o weithio gyda Seatfrog a chynnig cyfle i’n cwsmeriaid gael profi teithio mewn cerbyd Dosbarth Cyntaf am bris rhagorol.”
Os ydych chi eisoes yn teithio’r Nadolig hwn ar lwybrau cymwys ac eisoes wedi prynu tocyn Safonol, gall Rheolwr y Trên eich helpu i uwchraddio i docyn Dosbarth Cyntaf ar y diwrnod ar y trên, neu gallwch uwchraddio eich tocyn i docyn Dosbarth Cyntaf am lai o gost gyda Seatfrog.
Iain Griffin, Prif Swyddog Gweithredol SeatFrog: “Rydyn ni’n falch o weithio mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru i gynnig ffordd fforddiadwy i deithwyr uwchraddio i Dosbarth Cyntaf. Mae ein hymrwymiad ar y cyd i ddarparu teithiau eithriadol yn golygu y bydd mwy o deithwyr nawr yn cael y cyfle i brofi teithiau cyfforddus ac ansawdd gyda’r seddi gorau ar y trên.”
Sut mae Seatfrog yn gweithio?
- Lawrlwythwch ap Seatfrog
O agor cyfrif Seatfrog, nodwch eich cyfeirnod archebu, neu ddefnyddio nodwedd chwilio am drên Seatfrog. Bydd yr ap yn eich hysbysu a oes modd uwchraddio eich tocyn ar gyfer y daith honno.
- Gwneud cais i uwchraddio neu uwchraddio ar unwaith
Cymryd rhan mewn arwerthiant: Nodwch sawl tocyn rydych yn awyddus i’w huwchraddio. Does dim cost i gymryd rhan yn yr arwerthiant a dim ond os enillwch chi y bydd cost.
I uwchraddio ar unwaith: Os ydych chi eisiau uwchraddiad cyflym heb y risg bod rhywun arall yn eich curo yn yr arwerthiant, defnyddiwch opsiwn uwchraddio ar unwaith Seatfrog.
- Uwchraddio eich taith
Bydd Seatfrog yn anfon eich cod-bar uwchraddio yn syth i’ch ffôn symudol. Cofiwch ddod a chod-bar y tocyn gwreiddiol a’r cod-bar uwchraddiad Dosbarth Cyntaf ar y daith.
Felly, waeth os ydych ar daith busnes neu bleser, mae Seatfrog yn codi llai am uwchraddio tocyn.
