Maethu Cymru Sir Gâr yn ymuno â’r Scarlets i godi ymwybyddiaeth o faethu2024/25 URC Season 28.09.24 Scarlets v Cardiff Rugby

I gydnabod ymrwymiad anhygoel gofalwyr maeth y sir, croesawodd y Scarlets deuluoedd maeth Maethu Cymru Sir Gâr i gêm gartref gyntaf y tymor y Scarlets yn erbyn Caerdydd y bu disgwyl mawr amdani.

Mwynhaodd y gofalwyr maeth ddiwrnod allan haeddiannol iawn, ac roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i arddangos maethu.

Drwy ei drefniadau cydweithio parhaus â’r Scarlets, roedd gan Maethu Cymru Sir Gâr stondin wybodaeth ym Mhentref Cefnogwyr y Scarlets hefyd, gan roi’r cyfle perffaith i ymgysylltu â’r gymuned leol a chodi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd maethu yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn cydweithio â’r Scarlets ar gyfer y fenter bwysig hon. Mae maethu’n chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu sefydlogrwydd, gofal a chymorth i blant sydd ei angen fwyaf, ac mae’n galonogol gweld cyfranogiad mor gryf gan y gymuned. Gyda’n gilydd, gyda chymorth sefydliadau fel y Scarlets, gallwn godi ymwybyddiaeth ac annog mwy o bobl i ystyried maethu.”

Dywedodd Paul Fisher, Rheolwr Sefydliad Cymunedol y Scarlets:

“Mae’n wych i Sefydliad Cymunedol y Scarlets gydnabod a chefnogi sefydliad mor werthfawr â Maethu Cymru Sir Gâr. Mae sefydliadau fel hyn yn cael effaith mor gadarnhaol a gallant wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Roedd yn wych croesawu Maethu Cymru Sir Gâr i’n gêm agoriadol yn erbyn Caerdydd ac edrychwn ymlaen at dyfu ein partneriaeth yn y dyfodol.”

Llun gan Riley Sports Photography

Cadwch lygad am Maethu Cymru Sir Gâr yng ngemau cartref y Scarlets yn y dyfodol i ddysgu mwy am faethu a sut y gallwch helpu i ddarparu cartref diogel a meithringar i blant mewn angen.

Mae Maethu Cymru Sir Gâr wedi cynllunio sawl digwyddiad drwy gydol y tymor, lle byddant yn parhau i dynnu sylw at yr angen am fwy o ofalwyr maeth i gefnogi plant yn Sir Gaerfyrddin. I weld rhestr lawn o ddigwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *