Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am gymorth i adnabod unigolion sydd wedi cael eu gweld yn peidio â chodi baw eu cŵn yn Llanelli a Chaerfyrddin.
Mae’r lluniau sydd i’w gweld ar deledu cylch cyfyng yn dangos hyn yn digwydd ar Heol Awst, Caerfyrddin a Heol Penywarc, Llanelli. Y gobaith yw y bydd trigolion yn gallu helpu i adnabod yr unigolion.
Meddai’r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Rydym yn gofyn i aelodau’r cyhoedd ein helpu i adnabod yr unigolion sydd i’w gweld ar deledu cylch cyfyng yn peidio â chodi baw eu cŵn.
Rwy’n annog y lleiafrif bach o berchnogion cŵn sy’n methu ymddwyn yn gyfrifol i ystyried yr effaith negyddol y mae troseddau baw cŵn yn ei chael ar ein cymunedau lleol.
Bydd ein tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol yn cymryd camau yn erbyn unrhyw un sy’n cael ei ddal yn cyflawni troseddau amgylcheddol.”

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth roi gwybod am hyn drwy ein gwefan neu 01267 234567.
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei datgelu o dan yr eithriad a geir yn y darpariaethau ar gyfer Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a geir yn Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 2 (1) (c) o Ddeddf Diogelu Data 2018 gan y byddai peidio â datgelu’r delweddau hyn yn niweidiol i’r pwrpas o ddal neu erlyn troseddwr.”
