| Am 10.58yb ddydd Iau, 18 Gorffennaf, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Llanelli, Port Talbot a Chydweli eu galw i ddigwyddiad ym Mhorth Tywyn. |
| Ymatebodd y criwiau i dân yng nghegin llawr gwaelod annedd ddomestig mewn tŷ pâr. Achoswyd y tân gan sychwr dillad a defnyddiodd y criwiau chwe set o offer anadlu, tri chamera delweddu thermol, tair pibell jet, un hydrant a mân offer i ddiffodd y tân.
Cafodd cegin yr eiddo ei dinistrio’n llwyr gan y tân. Parhaodd y criwiau i fonitro am fannau poeth cyn gadael y safle am 1pm. Diogelwch Peiriannau Sychu DilladYn dilyn y tân hwn, mae GTACGC yn atgoffa pobl am ddiogelwch sychwyr dillad a nwyddau gwynion:
Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch nwyddau gwynion ar gael ar yma. |





