Arolwg anhygoel i Blaid Cymru

Pôl anhygoel yn rhoi Plaid Cymru 1 pwynt tu ôl i Lafur ar gyfer etholiadau’r Senedd

Annwyl Friend,

Mae arolwg barn newydd ar gyfer etholiadau Senedd 2026 yn awgrymu bod Plaid Cymru 1% yn unig y tu ôl i Lafur.

Mae pobl Cymru eisiau newid, yn colli ffydd yng ngallu Llafur i arwain – ac yn edrych at Blaid Cymru am arweinyddiaeth o’r newydd.

Dyw’r anrhefn o dan Vaughan Gething ddim yn mynd i fynd i ffwrdd – er gwaethaf coroni Eluned Morgan. Mae heriau Llafur Cymru yn llawer mwy sylfaenol.

Ond Friend, nid ydym yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol.

Dros y 21 mis nesaf, bydd Plaid Cymru yn parhau i weithio’n galed i ennill ymddiriedaeth pobl Cymru a dangos y gallwn ddod ag ymdeimlad o ddyletswydd yn ôl i’n gwleidyddiaeth.

Rydym am ddangos y gall Cymru gael llywodraeth sy’n canolbwyntio ar anghenion y bobl, nid anghenion Llafur Cymru.

Helpwch ni i ennill yn 2026

Dyma beth allwch chi ei wneud i sicrhau buddugoliaeth i Blaid Cymru yn 2026.

Ymunwch â Phlaid Cymru drwy ddod yn aelod heddiw.

Ymaelodi

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *