
Mae digwyddiadau’r nos yr Ardd dros dymor yr haf yn cynnig rhywbeth at ddant bawb! O sinemâu awyr agored yn hyfrydwch yr ardd i ddisgo tawel yn y tŷ gwydr mawr, trawiadol; peidiwch â cholli allan ar ddigwyddiadau’r nos fydd yn gwneud hi’n haf i’w gofio.
Bydd sawl digwyddiad sy’n addas ar gyfer pob oedran hefyd megis Twmpath gyda Jac y Do!
Ymunwch yn y dawnsio neu mwynhewch yr awyrgylch trwy wrando ar y cerddoriaeth gwerin bywiog a phrofi’r bwyd.
Gweler amserlen o ddigwyddiadau’r nos isod:
Nos Wener 2 Awst 2024 – Sinema Awyr Agored – “Wonka” am 6yh a “The Goonies” am 8yh
Nos Wener 9 Awst 2024 – Disgo Tawel yn y Tŷ Gwydr Mawr am 6:30yh
Nos Wener 16 Awst 2024 – Twmpath gyda Jac y Do am 6:30yh
Nos Wener 23 Awst 2024 – Sinema Awyr Agored – “Migration” am 6yh a “Grease” am 8yh
Nos Wener 6 Medi 2024 – Sinema Awyr Agored – “Frozen” am 6yh a “Ghostbusters – Frozen Empire” am 8yh
Am ragor o wybodaeth neu am galendr llawn o ddigwyddiadau’r Ardd, ewch i’r wefan sef garddfotaneg.cymru
