Diwrnod recriwtio Dangos a Dweud

Mid & W Wales Fire News

Diwrnod recriwtio Dangos a Dweud yng Ngorsaf Dân Rhydaman, Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf 2024

A ydych yn byw neu’n gweithio o fewn pum munud i Orsaf Dân Rhydaman?

Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y broses o recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad i wasanaethu cymuned Rhydaman.

Dewch i’n diwrnod agored yng Ngorsaf Dân Rhydaman ddydd Sadwrn 20 Gorffennaf (10.30am – 2.30pm).

Galwch heibio am sgwrs â rhai o’r criw. Mae’n gyfle gwych i gael rhagor o wybodaeth am rôl Diffoddwr Tân a’r modd y gallech wasanaethu eich  cymuned 🚒🔥

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *