Digwyddiad Golchi Ceir Elusennol Gorsaf Dân Caerfyrddin ym maes parcio Morrisons

Dewch i gefnogi Digwyddiad Golchi Ceir Gorsaf Dân Caerfyrddin ddydd Sadwrn, Mehefin 15!

Bydd y criw yn cynnal Digwyddiad Golchi Ceir yn Morrisons yng Nghaerfyrddin rhwng 10am a 4pm, a bydd yr holl arian a godir yn cael ei roi i Elusen y Diffoddwyr Tân a Together for Short Lives.

Dewch i gael eich car wedi’i olchi a chefnogi eich diffoddwyr tân lleol a dau achos teilwng iawn ar yr un pryd!.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *