Band sy’n cefnogi Foo Fighters ar eu taith ‘Everything or Nothing at All’ yn y DU yn trafod y realiti o fod yn fand roc gyda phrif leisydd sy’n fenyw yn 2024.
Mae’r band roc eiconig, Foo Fighters, ar fin dechrau eu taith stadiwm Everything or Nothing at All yn y DU wythnos nesaf, gan ymweld â Manceinion, Glasgow, Llundain, Caerdydd a Birmingham i arddangos eu halbym diweddaraf But Here We Are.
Caiff y band ei gefnogi gan amrywiaeth o grwpiau yn ystod eu hamser yn y DU, gyda 70% ohonynt yn artistiaid benywaidd unigol neu â phrif leisydd sy’n fenyw.
Cyn agor sioe un o fandiau roc mwya’r byd, mae’r band Cymreig alt-roc, Chroma, wedi cyfrannu tuag at drafodaeth am y casineb parhaus tuag at fenywod yn y diwydiant cerddoriaeth, ac wedi galw ar fwy i gael ei wneud i greu amgylchedd diogel i gerddorwyr benywaidd.
Yn siarad cyn y diwrnod mawr gyda Dave Grohl a’i griw, rhannodd prif leisydd yr albym ‘Ask for Angela’, Katie Hall, ei phrofiadau. Roedd hyn yn cynnwys yr adeg pan ddywedodd dyn diethr wrth aelodau gwrywaidd y band ei fod ‘am gael rhyw’ gyda Ms. Hall.
Gan gofio’r digwyddiad, dywedodd Katie: “’Nath y dyn ‘ma ddod lan i’r ddau ohonoch chi [Zac a Liam] a dweud, ‘dwi’n mynd i gael rhyw gyda Katie ar ôl y sioe.’ Daeth y bois lan ata i a dweud ‘Katie, paid â mynd yn agos at y dyn ‘na.’ Dwi’n gwybod bydd y bois wastad yn gofalu amdanai cant y cant, ond mae e dal yn anghredadwy.”
‘Gwybod beth allwn ni wneud yn well’.
Roedd y band yn siarad fel rhan o ymgyrch blaenllaw Llywodraeth Cymru, ‘Iawn’, i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.
Cafodd Iawn ei lansio yn 2023 fel platfform wedi ei arwain gan y gymuned i annog dynion ifanc i gymryd cyfrifoldeb personol ac ar y cŷd i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.
Siaradodd y chwaraewr bas Liam Bevan a’r drymiwr Zac Mather, am gyfrifoldeb dynion yn y diwydiant i beidio goddef casineb a cham-driniaeth yn erbyn menywod, a’r pwysigrwydd o gyd-weithio i wneud y diwydiant yn fwy diogel i fenywod.
Dywedodd Zac: “Mae e i wneud gyda gwybod sut allwn ni fel dynion wneud yn well i ymateb i unigolion pan mae nhw’n dweud rhywbeth sy’ ddim yn swnio’n iawn.”
Ychwanegodd ei bod hi’n bwysig i ddynion allu herio dynion eraill mewn ffordd ddiogel, os ydyn nhw’n dweud neu’n gwneud rhywbeth amhriodol.
“Mae’n bwysig i gael y sgyrsiau anodd yna gyda dynion heb deimlo dy fod yn rhoi dy hunan mewn sefyllfa beryglus ble gallan nhw fod yn dreisgar neu ddiystyrru yr hyn ti’n dweud.”
Dywedodd Katie: “Yn nhermau casineb tuag at fenywod, a dynion yn herio ymddygiad gwael dynion eraill, dim ond fel ‘na gall pethe newid. Mae’n bwysig i leisio’r pethe ‘ma achos efallai byddai’r person yna ddim yn ymwybodol o’r darlun ehangach neu’n ymwybodol eu bod nhw’n ei wneud e.”
‘Mae’r ofn yn un go iawn.’
Yn 2023, rhyddhaodd y band albym o’r enw ‘Ask for Angela’, wedi’i enwi ar ôl ymgyrch sy’n cael ei weithredu mewn bariau, clybiau a busnesau trwyddedig ar draws y DU, gan gynnwys Cymru. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl sy’n teimlo mewn peryg, sy’n fregus, neu sydd dan fygythiad i fynd at aelod o staff a gofyn iddyn nhw am ‘Angela’, gan adael gwybod i staff eu bod angen cymorth.
Dywedodd Katie: “’Nes i weld poster yr ymgyrch mewn toiled a meddyliais ei fod yn ddiddorol achos mae’n cydnabod bod dal risgiau i bawb, hyd yn oed yn yr oes fodern hon”
“Fel menyw, mae’r ofn yn un go iawn. Bob tro dwi’n cerdded adref o dŷ ffrind sydd dim ond lawr y ffordd, mae nhw’n bryderus ac yn dweud wrtha’ i decstio pan dwi’n cyrraedd.”
Dros y blynyddoedd, mae’r band wedi sicrhau eu bod yn cynnal sgyrsiau ynglŷn â diogelwch menywod a sut y gallan nhw gefnogi menywod.
Dywedodd Liam: “Ers i ni sefydlu, ry’n ni wedi cael lot o sgyrsiau. Mae ‘na bethau dwi erioed wedi meddwl ddwywaith amdanyn nhw fel dyn.
“Dim ond pan ti yn yr amgylcheddau yna eto, mae gen ti ongl newydd ar beth all fod yn digwydd o dy gwmpas efallai na fydde ti wedi’i sylwi arnyn nhw o’r blaen.”
I wylio fideo Chroma ac i ddilyn sianeli Iawn
Instagram: www.instagram.com/iawncymru/
TikTok: www.tiktok.com/soundcymru
YouTube: www.youtube.com/soundcymru
