
Fe achubodd Harley Metz, 9 oed, fywyd ei fam yn ddiweddar trwy godi’r larwm pan ddaeth o hyd iddi’n ddifrifol wael yn eu cartref.
Galwodd Harley, sy’n aelod o grŵp Badgers Aberdâr a Foundry Town St John Ambulance Cymru, 999 i ofyn am gymorth i’w fam Dana, sy’n ddiabetig math 1 ac oedd hefyd wedi bod yn cael trafferth gyda phoen dannedd am amser hir.
Roedd siwgr gwaed Dana wedi mynd allan o reolaeth un noson ym mis Ebrill o ganlyniad i gymhlethdodau yn ymwneud â haint yn ei cheg. Roedd ei llwybrau anadlu wedi dechrau cau ac roedd yn dioddef poen difrifol a chwydu tra bod Harley a’i chwaer 4 oed yn cysgu.
Yn ffodus, roedd Dana wedi trafod ei diabetes gyda Harley, a diolch i’r wybodaeth cymorth cyntaf a gafodd gan ei Arweinwyr St John Ambulance Cymru wirfoddol yn ei grŵp Badgers, llwyddodd i ffonio 999, codi’r larwm gyda chymydog a hefyd gofalu am ei chwaer fach nes i gymorth cyrraedd.
Dywedodd Dana: “Y noson honno fe aethon ni i gyd i’r gwely fel arfer. Roeddwn yn dioddef gyda cheg chwyddedig ac mewn poen, ond yn meddwl dim ohono gan fy mod wedi bod drwyddo am amser hir.
“Yn sydyn, fe ddeffrais i ac roedd fy stumog mewn poen. Roeddwn yn sgrechian allan mewn poen y rhan fwyaf o’r nos yn sâl. Roeddwn i mewn ac allan o ymwybyddiaeth ac yn cofio meddwl y byddwn i’n aros tan y bore i gael y plant i’r ysgol ac yna byddwn i’n cael help, heb sylweddoli nad oedd gen i lawer o amser.”
Sylwodd Harley fod rhywbeth o’i le pan oedd ei fam yn dal yn y gwely pryd y byddent fel arfer yn gadael y tŷ i fynd i’r ysgol. Aeth i mewn i’w hystafell wely i wirio Dana ac i weld a oedd angen help arni.

Ychwanegodd Dana: “Roeddwn i’n gorwedd yn y gwely prin yn anadlu a gallaf ei gofio yn gofyn i mi a oeddwn yn iawn ac a oedd angen help arnaf. Rhywsut, llwyddais i ddweud fy mod angen help ac yna roeddwn allan ohono eto. Y peth nesaf rwy’n ei gofio yw cael fy llwytho i mewn i’r ambiwlans.
“Roedd Harley wedi ffonio 999 ac roedd yn anhygoel. Fe achubodd fy mywyd, gofalu am ei chwaer 4 oed, aeth i gael cymydog a chadwodd ei ben. Rydw i mor anhygoel o lwcus i fod yma ac yn ffodus i gael Harley. Mae’n fachgen bach arbennig iawn ac mae’n llawn uchelgais. Mae’n garedig, yn ofalgar, yn barchus a heb sôn am achubwr bywyd go iawn. Fe yw fy arwr a fy mab.”
Roedd Dana’n awyddus i bwysleisio’r rhan bwysig yr oedd profiadau Harley gyda’i grŵp Badgers wedi’i chwarae wrth roi’r wybodaeth iddo am beth i’w wneud mewn argyfwng meddygol.
“Mae Badgers yn hollol anhygoel i’r plant hyn. Mae cymorth cyntaf yn hynod o bwysig i blant ddysgu, oherwydd edrychwch beth ddigwyddodd. Pe na bai Harley yn mynd i Badgers ni fyddai ganddo’r wybodaeth sydd ganddo. Mae wedi bod yn Badger ers rhai blynyddoedd bellach ac mae wrth ei fodd.
“Hoffwn hefyd ganmol Maria Roderick, sy’n gweithio gyda’r plant yn Badgers. Mae hi’n gymaint o gaffaeliad iddyn nhw ac yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl.”

Ychwanegodd Maria Roderick, sy’n arwain grŵp Badgers Harley fel gwirfoddolwr gyda St John Ambulance Cymru: “Oherwydd ei fod yn mynychu Badgers, roedd yn gwybod beth i’w wneud pan aeth ei fam yn sâl ac fe achubodd ei bywyd. Rwyf mor falch o Harley ac yn un Arweinydd balch iawn.”
Mae Dana bellach yn gwella’n dda ac mae Harley’n parhau i fynychu ei Froch Badgers leol, gan ychwanegu at y wybodaeth achub bywyd y mae eisoes wedi’i defnyddio mor ifanc.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Badgers, sy’n ymgysylltu plant 5-11 oed ag amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau, ewch i: https://www.sjacymru.org.uk/en/page/badgers.
