
Mae busnes platiau rhif personol yn Abertawe wedi cael ei gydnabod am ei gefnogaeth barhaus i St John Ambulance Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf.
Y mis hwn, rhoddodd VRM Swansea Ltd (Plates4Less) £1,710 i elusen cymorth cyntaf Cymru, gan gynyddu cyfanswm ei rhoddion ers 2019 i dros £10,000.
Y cwmni, a sefydlwyd yn 1997, yw ganolfan y DU ar gyfer trosglwyddiadau platiau rhif personol. Mae’r cwmni’n cefnogi gwaith 13 o elusennau gwahanol, gan gynnwys St John Ambulance Cymru. Mae cyfran o’r arian a godir o werthiant yn cael ei roi i’w hachosion dethol, gan ei alluogi i roi yn ôl i’r gymuned.
Dywedodd Antony Clark, Rheolwr Marchnata VRM Swansea Ltd: “Mae ein safiad moesegol ar arferion gwaith a’n dyhead i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned yn golygu ein bod yn cefnogi achosion sy’n cael yr effaith fwyaf ar ein bro a Chymru gyfan.
“Rydym yn falch o gefnogi St John Ambulance Cymru oherwydd ein bod yn credu mewn rhoi yn ôl i’n cymuned. Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae elusennau lleol yn ei chwarae wrth achub bywydau a gwella lles ein cymuned. Ein rhodd yw ein ffordd o gael effaith gadarnhaol lle mae’n bwysig.”
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyfrannu dros £10,000 hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at y garreg filltir nesaf.”
Mae rhoddion VRM Swansea Ltd wedi helpu i ariannu hyfforddiant, triniaeth a thrafnidiaeth cymorth cyntaf St John Ambulance Cymru yng nghymunedau Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gan helpu’r elusen i achub mwy o fywydau.
Dywedodd Nichola Couceiro, Pennaeth Codi Arian, Ymgysylltu a Chyfathrebu St John Ambulance Cymru: “Hoffem estyn ein diolch i bawb yn VRM Swansea Ltd am eu cefnogaeth hael dros y 5 mlynedd diwethaf. Diolch i’ch rhoddion, rydym un cam yn nes at ein gweledigaeth: cymorth cyntaf i bawb, unrhyw bryd, unrhyw le.”
Os ydych chi’n berchennog busnes sy’n edrych i roi yn ôl i’ch cymuned neu os hoffech chi helpu eich staff i godi arian yn y gwaith, cysylltwch ag elusen cymorth cyntaf Cymru heddiw drwy e-bostio fundraising@sjacymru.org.uk neu ffonio 029 2044 9626.
Gallwch ddysgu mwy am waith achub bywyd St John Ambulance Cymru drwy fynd i www.sjacymru.org.uk.
