Cyngor ar flaen y gad gyda Chyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd ar ôl buddsoddiad o £3.5m

Mae Cyngor Bwrdeistref Caerffili yn arwain y ffordd yn y broses o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, gan wneud hynny flwyddyn yn gynt na’r disgwyl.

Ynghyd â buddsoddiad o £3.5m mewn uwchraddio ceginau, lansiodd ysgolion yng Nghaerffili fenter ‘O’r pridd i’r Plât’ hefyd, gan hyrwyddo’r defnydd o fwyd ffres wedi’i dyfu’n lleol mewn bwydlenni ysgol trwy gydweithio llwyddiannus ar draws ysgolion, partneriaid a chyflenwyr.

Mae cydweithio â chyflenwyr a ffermwyr lleol yn golygu bod mwy o lysiau, cynhyrchion cig a llaeth Cymreig tymhorol mewn cinio ysgol ar draws y fwrdeistref. Y llynedd, roedd caws blodfresych wedi’i wneud o 700 o flodfresych a dyfwyd yn lleol yn boblogaidd iawn amser cinio.

Ym mis Medi 2022, dechreuodd Cymru ar y rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) – rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Bydd Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn cael ei gyflwyno i bob plentyn ysgol gynradd a dros 6,000 o ddisgyblion oed meithrin ar draws holl awdurdodau lleol Cymru erbyn mis Medi eleni. Ledled Cymru, mae 19 awdurdod lleol – gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Caerffili – wedi cwblhau hyn, gan ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6. Bydd gweddill yr awdurdodau lleol yn cwblhau’r broses erbyn mis Medi 2024.Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, symudodd Cyngor Bwrdeistref Caerffili yn gyflym. Gan ddefnyddio syrfëwr annibynnol, asesodd y cyngor y cyfleusterau a fyddai dan bwysau cynyddol i ddarparu nifer mwy o ginio ysgol. Canfu’r archwiliad, mewn llawer o ysgolion, a oedd yn aml yn gartref i geginau ysgol hŷn a llai, nad oedd y capasiti i fwydo nifer y plant a fyddai’n gymwys i gael Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd o dan y rhaglen newydd.

Buddsoddodd y cyngor £3.5 miliwn mewn cyllid a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i ehangu ac adnewyddu ceginau ysgolion cynradd ar draws y fwrdeistref i ddarparu ar gyfer y galw cynyddol, trwy uwchraddio ceginau, ehangu bwydlenni, a nifer cynyddol o staff arlwyo.

Derbyniodd 73 o ysgolion cynradd Caerffili welliannau hanfodol i’w cyfleusterau yn 2022 na fyddai wedi gallu digwydd heb y buddsoddiad Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd. Erbyn Medi 2023 roedd Caerffili yn gallu cynnig cinio ysgol am ddim i bob disgybl o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6, 12 mis yn gynt na’r disgwyl. Pwysleisiodd Marcia Lewis, Prif Swyddog Arlwyo yng Nghyngor Caerffili, bwysigrwydd yr uwchraddio, gan nodi: “Pan gyhoeddwyd y cyflwyniad, roedd y staff yn bryderus ynghylch sut yr oeddent am fwydo pob un plentyn. Mae pawb yn gefnogol iawn – rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd y gwelliannau hyn. “Ers i’r broses o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd gael ei chwblhau, rydym yn gweld mwy a mwy o ddisgyblion yn defnyddio’r gwasanaeth yn mwynhau rhoi cynnig ar fwydydd newydd, eistedd i lawr gyda ffrindiau, gan wella eu sgiliau cymdeithasol tra’n cael eu haddysgu am bwysigrwydd gwneud dewisiadau bwyd iach fel rhan o’u diwrnod ysgol. Mae Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd hefyd wedi helpu rhieni yn ariannol ar adeg y mae costau byw yn peri pryder i bawb. Mae wedi bod y llwyddiant gwirioneddol i bawb dan sylw.”

I gael rhagor o wybodaeth am Brydau Ysgol am ddim in holl blant Ysgolion Cynradd, ac i wirio a ydych yn gymwys i gael help gyda hanfodion ysgol, ewch i Hawliwch help gyda chostau ysgol | LLYW.CYMRU

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *