Ei Huchelder Brenhinol, Duges Caerloyw yn cwrdd â gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru yng Nghaerdydd

Cyfarfu Ei Huchelder Brenhinol, Duges Caerloyw â gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru o bob oed yng Nghaerdydd ar 24 Ebrill, gan glywed am y gwaith gwych y maent yn ei wneud i ddysgu, hyrwyddo a darparu cymorth cyntaf mewn cymunedau ledled Cymru.

Cyfarfu Duges Caerloyw â gwirfoddolwyr o elusen cymorth cyntaf Cymru yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr fel rhan o ymweliad â’r brifddinas, a oedd yn cynnwys ymweliadau â sawl sefydliad y mae hi’n gysylltiedig â nhw.

Pennawd: Cyfarfu Ei Huchelder Brenhinol ,Duges Caerloyw CD DStJ GCVO â gwirfoddolwyr o St John Ambulance Cymru yn ystod ymweliad ag Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd.

Derbyniwyd Ei Huchelder Brenhinol, sy’n Bencadlywydd St John Ambulance Cymru, gan  Arglwydd Raglaw De Morgannwg, Mrs Morfudd Meredith, cyn cael ei chyflwyno i Paul Griffiths OBE KStJ DL, Prior St John Ambulance Cymru; Richard Paskell MBE CStJ, Prif Wirfoddolwr yr elusen, a’r Parch Ganon Sarah Jones, Offeiriad â Gofal yn Eglwys Sant Ioan.

Y tu mewn i’r eglwys, siaradodd y Dduges â gwirfoddolwyr a oedd wedi teithio o bob rhan o Gymru i fod yn rhan o’r digwyddiad a chlywodd sut yr oeddent wedi dysgu sgiliau cymorth cyntaf gyda’r elusen, yn ogystal â’r gwahanol ffyrdd y rhoddwyd y sgiliau hyn ar waith.

Pennawd: Cyfarfu Ei Huchelder Brenhinol ,Duges Caerloyw CD DStJ GCVO â gwirfoddolwyr o St John Ambulance Cymru yn ystod ymweliad ag Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd.

Yn ogystal â chwrdd â Badgers a Chadetiaid, siaradodd Ei Huchelder Brenhinol hefyd ag unigolion sy’n ymwneud â Chynllun Cadetiaid Nyrsio Tywysog Cymru, ynghyd ag oedolion ifanc, a dysgodd sut roedd eu gwirfoddoli wedi darparu profiad a sylfaen ar gyfer gyrfa yn y dyfodol yn y sector gofal iechyd.

Cyfarfu’r Dduges hefyd ag oedolion sy’n gwirfoddoli gyda’r elusen, sy’n cyflawni rolau hanfodol amrywiol i St John Ambulance Cymru, gan gynnwys y rhai sydd wedi rhoi degawdau o wasanaeth i’r elusen i ddarparu cymorth cyntaf mewn digwyddiadau, a’r rhai sy’n rhoi o’u hamser i arwain grwpiau Badgers a Chadetiaid ar draws Cymru.

Pennawd: Cyfarfu Ei Huchelder Brenhinol ,Duges Caerloyw CD DStJ GCVO â gwirfoddolwyr o St John Ambulance Cymru yn ystod ymweliad ag Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd.

Dywedodd, Paul Griffiths OBE KStJ DL, Prior i Gymru: “Roedd yn anrhydedd cwrdd â Duges Caerloyw a chyflwyno Ei Huchelder Brenhinol i drawstoriad o wirfoddolwyr ymroddedig sy’n asgwrn cefn i’n helusen.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am yr amser a roddodd y Dduges i siarad â’n gwirfoddolwyr ac am y diddordeb a gymerodd mewn clywed am y sgiliau a’r profiadau a gawsant yn ystod eu hamser gydag St John Ambulance Cymru.”

Pennawd: Cyfarfu Ei Huchelder Brenhinol ,Duges Caerloyw CD DStJ GCVO â gwirfoddolwyr o St John Ambulance Cymru yn ystod ymweliad ag Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd.

Cyfarfu Ei Huchelder Brenhinol hefyd â Wardeniaid a gwirfoddolwyr Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, sy’n gwasanaethu fel ‘Eglwys y Priordy’ i’r Priordy Cymru Urdd St John. Dyma’r ail adeilad hynaf yng Nghaerdydd.

Pennawd: Cyfarfu Ei Huchelder Brenhinol ,Duges Caerloyw CD DStJ GCVO â gwirfoddolwyr o St John Ambulance Cymru yn ystod ymweliad ag Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *