MARCHOGAETH i fuddugoliaeth oedd hanes Jess Pritchard mewn cystadleuaeth farchogaeth o fri.

Enillodd y fyfyrwraig o Goleg Cambria y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Hyweddu Paralympaidd Gradd Tri yn Arena Ryngwladol Addington.

Yn cynrychioli Team GB, dywedodd Jess – Dysgwr Mynediad Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid, sydd wedi’i leoli yn Llaneurgainmai dyma fuddugoliaeth fwyaf ei bywyd.

Cwblhaodd y ferch 17 oed o Sir Gaer, a’i cheffyl, Ted, nifer o heriau gan gynnwys cylch 20m perffaith, gweithgareddau llinell ganol‘trot-ups’, gyda thasgaumwy cymhleth” bob dydd.

Jess Cambria

Roedd yn dridiau dwys o brofion a marchogaeth, felly rydw i’n falch iawn o fod wedi dod yn gyntaf,” meddai.

Roeddna farchogion yno o bob cwr o’r byd a phobl yn gwylio adre drwy’r rhyngrwyd, felly roeddwn i ar bigau’r drain braiddyn enwedig gan fod yna oedi munud olaf pan o’n i fod i ddechrau! – ond fe wnes i lwyddo i gadwmhen a chael sgoriau da.”

Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Dorin Park yng Nghaer, ychwanegodd Jess: “Rydw i’n ymarfer gartre ac yn gobeithio parhau i wella fy ngradd. Fy mreuddwyd yn y pen draw yw cynrychioli Prydain Fawr un diwrnod yn y Gemau Olympaiddrydw i’n mynd i ddal ati i weithio’n galed i gyrraedd yno.

Rydw i wedi ennill gwobrau a medalau o’r blaen, ond dyma’r un fwyaf eto, felly mae’n fy llenwi â hyder ar gyfer y dyfodol.

“Yn y pen draw, byddwn i wrth fy modd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd, ond fe hoffwn i hefyd helpu plant anabl i ddysgu sut i farchogaeth. Rydw i’n ffodus ‘mod i wedi cael fy magu o amgylch ceffylau, felly rydw i’n credu y byddai hynny’n rhoi llawer o foddhad.”

Jess Cambria

Mae Jess, sydd â pharlys yr ymennydd ac epilepsi, yn bwriadu marchogaeth ei cheffyl arallCheerio, mewn cystadlaethau arfaethedig, gyda chefnogaeth ei mam Shelly, sydd hefyd yn ei hyfforddi.

Cafodd Jess ei llongyfarch gan Allison Hillier-Jones, Anogwr Cynnydd ar gyfer Lefel Mynediad a Sylfaen yn Llaneurgain, am ei “champ ryfeddol“.

“Mae Jess yn ddysgwr ysbrydoledig a dim ond ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad y dywedodd hi wrthym ni ei bod hi’n marchogaeth gyda Team GB! Roedd yn gwbl annisgwyl ac roedden ni’n falch iawn drosti,” meddai Allison.

“Mae ei thraed hi’n gadarn ar y ddaear ac eto mae hi mor frwdfrydig a dawnus, rydyn ni’n wirioneddol falch o Jess a’i llwyddiant.”

I gael y newyddion a’r wybodaeth diweddaraf am Coleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *